Ioan Gruffudd
"Mae'n wych clywed bod cyfleoedd celfyddydau i bobl ifanc yng Nghymru'n derbyn y clod a'r sylw mae'n nhw'n eu haeddu, ac rwyf wrth fy modd yn cefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru" - Ioan Gruffudd
CCIC a noddwyr
Yn 2003, ymunodd Ove Arup and Partners â ni i gefnogi gweithgareddau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn 2004, parhaodd y bartneriaeth gyda datblygiad menter gyffrous a fydd yn cynnwys y saith grwp sy'n rhan o CCIC. Mae'r bartneriaeth newydd dderbyn Gwobr Partneriaid Busnes Arts and Business.
Bob blwyddyn, bydd noddwyr yn cael eu denu at y syniad o gael eu cysylltu â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a rhai o actorion, dawnswyr, cerddorion, cantorion, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr ifanc mwyaf talentog Cymru.
Trwy ei raglen nawdd, bydd CCIC yn ceisio meithrin partneriaethau gyda chwmnïau sy'n dymuno buddsoddi mewn:
- ymchwil am ragoriaeth
- cyfleoedd i bobl ifanc
- menter genedlaethol, sydd â dimensiynau lleol
- celfyddydau a diwylliant Cymru
Mae'n amser cyffrous i noddwyr newydd ymuno â ni - ar ddechrau cyfnod o dwf, newid a chydnabyddiaeth i'r celfyddydau a phobl ifanc trwy Gymru.
Beth am fod yn Aelod Sylfaen, Corfforaethol neu Gyswllt a sicrhau blaenoriaeth archebu tocynnau a chynigion arbennig eraill i gwmnïau sy'n awyddus i noddi gwaith CCIC.
Ceir amrywiaeth eang ac amrywiol o gyfleoedd noddi. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Pauline Crossley, CCIC (029 20265060).
