Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Y Wasg
*

Dathlu'r Pump

Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu'i benblwydd yn bump oed yn 2005 gyda chomisiynau mawr newydd, gwefan newydd sbon a thaith i'r stiwdio recordio

Ers ei lansio bum mlynedd yn ôl yn amgylchoedd ysblennydd Stadiwm Mileniwm Cymru, llwyddodd CCIC i sefydlu ei hun fel rhan flaenllaw o fyd diwylliannol Cymru.

Mae CCIC wedi gweithio gyda dros 9,000 o gyfranogwyr; wedi cyflwyno dros 160 o gyngherddau a pherfformiadau; wedi cynnig 200 o gyrsiau ac wedi diddanu cynulleidfaoedd o bron i 59,000 (er nad yw hyn yn cymryd ystyriaeth o'n cynulleidfaoedd radio a theledu). Cryn gamp i un pum mlwydd oed, ddyweden i!

Denwyd cyfarwyddwyr artistig, coreograffwyr, cerddorion ac arweinyddion o Gymru a'r DG i weithio ar ein projectau niferus, gan gynnwys y coreograffwyr gwobrwyol Wayne McGregor a Henri Oguike, sylfaenydd y Proms Cymreig Owain Arwel Hughes, y cyfarwyddwr cerdd o'r West End David Firman, y chwaraewr jazz Jean Toussaint, a'r gyfarwyddwraig a aned ym Milan Firenza Guidi. Yn 2003, enillodd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, dan gyfarwyddiaeth artistig Greg Cullen, Wobr Dylunio Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau'r Theatr yng Nghymru; yn 2005 cymeradwywyd ein Rhwydwaith Aelodau Busnes CCIC a sefydlwyd gyda chefnogaeth ARUP yn 12fed Dathliad Gwobrau Arts & Business Cymru.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i droedio'r llwyfan gyda'r Royal Shakespeare Company (Matthew Rhys) - ac i ymuno â Dr Who o'r unfed ganrif ar hugain ar ei anturiaethau trwy amser (Eve Myles). Mae ein Côr wedi recordio'n ddiweddar â'r soprano o fri Katherine Jenkins, tra bod ein Cerddorfa wedi synnu beirniaid cerdd Berlin sy'n hynod o anodd eu plesio.

Felly beth sydd ar y gorwel i'r criw cerddorion a pherfformwyr o Gymru gyfan yn ystod yr haf eleni? Yn gyntaf, cyfres o gyrsiau preswyl a theithiau, a fydd yn darparu hyfforddiant o'r radd flaenaf gan diwtoriaid sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar bob agwedd o'r diwydiant cerdd a pherfformio. Bydd ThCIC yn cyflwyno gwaith newydd o fri gan Greg Cullen - Coelcerth Botticelli - tra y bydd Gareth Glyn yn creu Dathlwn, gwaith newydd sbon ar gyfer y Côr. Ffanffer Gareth ar gyfer Band Pres Symffonig Ieuenctid Cymru oedd y gwaith cyntaf i'w glywed yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ei agoriad ym mis Tachwedd 2004

Bydd y Gerddorfa a'r Côr yn mynd draw i'r stiwdio i recordio CD o gerddoriaeth Nadoligaidd dan arweiniad Owain Arwel Hughes. Gofynnwyd i Owain enwebu cerddorfa o'i ddewis ar gyfer y project a dewisodd gerddorion cerddorfaol ifanc Cymru a wnaeth gymaint o argraff cofiadwy yn yr Young Euro Classic Festival yn Berlin y llynedd.

YN ÔL