Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Y Wasg
*

Celfyddyd busnes

  • Lansiwyd Rhwydwaith Aelodau Busnes Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn yr Hydref, 2004 yn Theatr y Sherman, Caerdydd, cyn perfformiad gan Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o'r sioe Sibrydion
  • Cefnogwyd y fenter a anelir at gefnogi datblygiad y celfyddydau ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol gan Arup, Arts & Business Cymru a seren y West End Caroline Sheen
  • Cafodd y bartneriaeth rhwng CCIC ac ARUP ei chymeradwyo yn 12fed Dathliad Gwobrau Arts & Business Cymru, gyda chinio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mawrth 2005. Roedd Rhwydwaith Aelodau Busnes CCIC yn rhan o'r categori "Ymrwymiad Staff" - y categori sy'n cydnabod datblygiad gweithwyr trwy'r celfyddydau.

Daeth arweinwyr busnes ac ymarferwyr y celfyddydau mynegiannol ynghyd yn 2004 i ddathlu lansiad Rhwydwaith Aelodau Busnes Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Sefydlwyd y rhwydwaith gan Arup fel rhan o becyn nawdd cyfannol pedair blynedd o hyd, a ddarperir mewn cydweithrediad ag Arts & Business Cymru. "Ein nod yw defnyddio ein profiad dylunio a rheoli i ategu'r sgiliau sydd eisoes ar gael o fewn CCIC ac i weithio gyda'n gilydd i sefydlu llif nawdd ar gyfer cefnogi datblygiad y Celfyddydau Ieuenctid yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod," eglura Steven Luke,Cyfarwyddwr Arup.

Yn 2003, ymunodd Arup â ni i gefnogi cynhyrchiad ThCIC o Frida a Diego - stori garu trwy ddau ddigwyddiad corfforaethol a gynhaliwyd yn Theatr y Sherman. Codwyd arian i fynd â'r cwmni allan ar daith am y tro cyntaf mewn pedair blynedd. Yn 2004, cafwyd mwy o gefnogaeth gan Arup wrth iddynt ddarparu cyngor gwerthfawr ar sefydlu cynllun aelodaeth corfforaethol.

"Mae'n gyfle amserol i noddwyr newydd ymuno â ni - ar ddechrau cyfnod cyffrous o dwf, newid a chydnabyddiaeth ar gyfer y celfyddydau a phobl ifanc trwy Gymru," dywed Pauline Crossley, Swyddog Celfyddydau Mynegiannol Cyd-bwyllgor Addysg Cymru sy'n rheoli CCIC gyda Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Prydain.

YN ÔL