Arweinydd 2012: Sean O’Neill
A hithau bellach yn ei 11fed blwyddyn, mae Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi ennill bri rhagorol fel un o onsomblau chwyth symffonig mwyaf blaenllaw'r DU. Mae ei pherfformiadau yng Nghymru yn ogystal â thros y môr - yn enwedig ei arbenigedd, sef perfformiadau o’r repertoire cyfoes - wedi bod wrth fodd calon y beirniaid yn gyffredinol.
Onsombl chwyth symffonig ac iddo 52 o aelodau yw CChGIC a chaiff yr aelodau hyn o bob cwr o Gymru eu dewis drwy gyfrwng clyweliad blynyddol. Ffurfwyd y Gerddorfa Chwyth yn 2002 gan Ty Cerdd - Music Centre Wales, dan ymbarél Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu John Greaves, Nigel Boddice, Marco Pütz, Colin Touchin a Simon Wills yn arweinyddion y Gerddorfa.
Gofynion Mynediad
- Derbynnir ymgeiswyr i'w clyweld ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan Bennaeth Gwasanaeth Cerdd eu sir (neu ei g/chynrychiolydd neu gywerth) a disgwylir iddynt gefnogi gweithgaredd cerddorol yn yr ysgol/coleg ac ar lefel sirol. Os nad oes gweithgaredd sirol, gall y Pennaeth Adran yn yr ysgol neu goleg gefnogi ceisiadau i ddechrau.
- Dylai ymgeiswyr fel arfer fod o safon Gradd VIII er nad oes angen iddynt fod wedi sefyll yr arholiad.
- Dylai ymgeiswyr fod rhwng 12 ac 21 mlwydd oed (neu 22, os ydynt mewn addysg lawn-amser o hyd) ar 31ain Awst 2012.
- Rhaid i chwaraewyr fod ar gael ar gyfer holl ddyddiadau'r cwrs a'r cyngherddau. Gwnewch yn siŵr y byddwch ar gael cyn ymgeisio.
Cwrs Preswyl a Chyngherddau 2012
2012 will see the NYWOW take part in a unique film project with the renowned Cardiff based composer, Charlie Barber. The Orchestra will give live performances of his new score at screenings of a classic of the silent screen, The Fall of the House of Usher, at major venues throughout south Wales.
This year's residential course will be held in the beautiful surroundings of the National Trust's Stackpole Centre, near Pembroke. During the intensive week of rehearsals our team of expert tutors, led by conductor, Sean O'Neill will prepare the young musicians for the film tour. There will be plenty of opportunity for relaxation and students will also be offered a lively entertainment programme run by the pastoral staff. Activities are planned to include quizzes, talent nights and sports as well as guided nature walks around the 2,000 acres of parkland that surround the Stackpole Centre. Prior to its residential course, the NYWOW will meet in Cardiff for a preliminary rehearsal/recording session in early March.
Arweinydd: Sean O’Neill
Gweithdy: 4 Mawrth, Caerdydd
Preswyl: 10 - 15 Ebrill 2012 Canolfan Ystagbwll, ger Benfro
Cyngherddau:
13 Ebrill, Theatr y Lyric, Caerfyrddin
14 Ebrill, Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
15 Ebrill, Neuadd Gwyn, Castell Nedd
Cysylltwch â
Matthew Thistlewood yn Nh ŷ Cerdd 029 2063 5650 nywow@tycerdd.info
Am fwy o wybodaeth am CChGIC 2012 a ffurflenni cais, cliciwch yma