Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Côr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
nycw
"NYCW sang their hearts out"
Western Mail

"When I was in the choir I got the chance to sing with
Bryn Terfel and it's something I'll never forget"
Katherine Jenkins, soprano

Arweinydd 2012: Simon Toyne

Mae Côr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig cyflwyniad cyffrous i ganu corawl, a hynny i bobl ifanc rhwng 13 - 16 oed (13 - 17 lleisiau bechgyn). Ffurfiwyd y Côr yn 2005, nid yn unig er mwyn paratoi cantorion iau i fod yn aelodau o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y dyfodol, ond fel côr yn ei hawl ei hun.

Caiff y cantorion eu dewis mewn clyweliad blynyddol. Croesawir ceisiadau gan bob llais (gan gynnwys bechgyn sy’n canu soprano acalto).

Bydd aelodaeth yn cynnwys cymryd rhan mewn cwrs preswyl, a ddaw i ben â chyngerdd cyhoeddus. Gellir ystyried aelodau hŷn (16+) o'r Côr Hyfforddi fel aelodau wrth gefn o'r Côr Cenedlaethol Ieuenctid yn y flwyddyn honno.

Dyddiadur Perfformiadau

Gofynion Mynediad

Derbynnir ymgeiswyr i'w clyweld ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan Bennaeth Gwasanaeth Cerdd eu sir (neu ei g/chynrychiolydd neu gywerth) a disgwylir iddynt gefnogi gweithgaredd cerddorol yn yr ysgol/coleg ac ar lefel sirol. Os nad oes gweithgaredd sirol, gall y Pennaeth Adran yn yr ysgol neu goleg gefnogi ceisiadau i ddechrau.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer CHCIC fel arfer fod rhwng 13 ac 16 mlwydd oed (lleisiau gwrywaidd: 13 - 17) ar 31ain Awst 2012. Mae rhywfaint o brofiad o fod yn aelod o gôr yn ddefnyddiol ond efallai na fydd hyn bob amser yn angenrheidiol.

Rhaid i gantorion fod ar gael ar gyfer holl ddyddiadau'r cyrsiau a'r cyngherddau. Gwnewch yn siŵr y byddwch ar gael cyn ymgeisio.

Cwrs Preswyl a Chyngherddau 2012

Bydd CHCIC yn cwrdd ar gyfer ei gwrs preswyl blynyddol yn ystod hanner tymor mis Chwefror yn Ysgol Moreton Hall, ger Y Waun. Drwy gydol y cwrs 6 diwrnod bydd y cantorion yn paratoi rhaglen gymysg ar gyfer perfformiadau cyhoeddus. Bydd y Côr yn gweithio mewn ymarferion llawn ac adrannol dan arweiniad ein tîm o diwtoriaid arbenigol yn arwain gan Simon Toyne.

Mae’r repertoire arfaethedig ar gyfer 2012 yn cynnwys Little Jazz Mass gan Mike Brewer a gwaith newydd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer Côr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Sicrheir cyferbyniad drwy gynnwys cerddoriaeth ysgafnach megis emynau Negroaidd, baledi poblogaidd a chaneuon gwerin.

Daw’r cwrs i ben gyda pherfformiad yn un o neuaddau cyngerdd gorau Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ymddangosodd y Côr yng Nghanolfan y Mileniwm, Eglwys y Santes Fair, Abertawe ac Eglwys OLSM, Y Fenni. Yn 2012, bydd CHCIC yn dychwelyd i Eglwys San Silyn yn Wrecsam, lleoliad cyngerdd 2008 lle gwelwyd pob sedd wedi’i llanw.

Arweinydd: Simon Toyne
Preswyl: 13 - 18 Chwefror 2012 Ysgol Moreton Hall, ger y Waun
Cyngherddau:
16 Chwefror, Moreton Hall School, near Chirk
18 Chwefror, Egwlys Sant Silyn, Wrecsam

Cysylltwch â

Matthew Thistlewood yn Nh ŷ Cerdd 029 2063 5650 nytcw@tycerdd.info

Am fwy o wybodaeth am CHCIC 2012 a ffurflenni cais, cliciwch yma

Cysylltau Perthnasol

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Dyddiadur