Evening Herald
"These young Welsh players possess dedication,
technical superiority and attention to detail"
Berliner Morgenpost
Arweinydd 2012: Carlo Rizzi
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru oedd y gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf i’w sefydlu yn y byd. Mae gan CGIC 65 mlynedd o brofiad o ddarparu profiad hyfforddi o’r radd flaenaf i gerddorion ifanc Cymru a chyflwyno perfformiadau sy’n llawn egni ac angerdd yn gyson. Y Gerddorfa felly sydd ar flaen y gad ym maes cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r CGIC yn cyflwyno cyngherddau mewn lleoliadau o fri yn y DU a thramor, yn eu plith: Neuadd Dewi Sant (Caerdydd), Neuadd Bridgewater (Manceinion), NCH (Dulyn), The Sage Gateshead, Konzerthaus am Gendarmenmarkt (Berlin), Beethovensaal (Stuttgart), y Salle Erasmus (Strasbourg) ac ar Ynys Ischia yn yr Eidal. Gwahoddir CGIC yn aml i berfformio mewn gwyliau cerddorol rhyngwladol mawreddog yn cynnwys Gŵyl y Tri Chôr, Gŵyl Ryngwladol Abergwaun a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Dyddiadur
Cwrs Preswyl a Thaith Gyngherddau 2012
Arweinydd: Carlo Rizzi
Preswyl: 17 – 28 Gorffennaf 2012
Cyngherddau:
25ain Gorffennaf, Neuadd Brangwyn, Abertawe
26ain Gorffennaf, Gwŷl y Tri Chôr, Henffordd
27ain Gorffennaf, Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
28ain Gorffennaf, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro
Repertoire:
Judith Bingham; Celticity (New Commission)
Beethoven; Symphony No.5
Gershwin; An American in Paris
Ravel; Daphnis e Chloe (Suite No. 2)
Cydweithrediad CGIC A CGG Y BBC:
Arweinydd: i’w gadarnhau
Dyddiadau: 03 – 06 Awst
Cyngerdd: 6ed Awst
Gofynion Mynediad
- Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn am glyweliad yn dilyn cymeradwyaeth gan Bennaeth Gwasanaeth Cerddoriaeth y sir (neu ei gynrychiolydd awdurdodedig neu gywerth). Mae disgwyl iddynt gefnogi gweithgareddau cerddoriaeth yn eu hysgol/coleg ac ar lefel y sir. Lle nad oes gweithgareddau yn y sir, gall Pennaeth yr Adran yn yr ysgol neu goleg gefnogi ceisiadau.
- Dylai ymgeiswyr fel arfer fod o safon gradd VIII neu’n gweithio tuag ato ar ôl llwyddo yng ngradd VII ar hyn o bryd; dylai myfyrwyr y delyn fod o safon gradd VI o leiaf.
- Dylai ymgeiswyr fod yn 21 mlwydd oed neu’n iau ar 31/08/2012
Cysylltwch â
Matthew Jones/Alex James yn swyddfa CGIC 029 2026 5197; nyow@nyaw.co.uk