the best possible results is exceptional"
Jean Toussaint, tutor with NYJW
Cyfarwyddwr Cerdd 2012: Percy Pursglove
Mae Band Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i gerddorion jazz ifanc talentog ddatblygu eu sgiliau byrfyfyrio a’u sgiliau onsombl dan gyfarwyddyd rhai o arbenigwyr jazz gorau’r DU. Bydd ei aelodau’n perfformio mewn grwpiau bychain yn ogystal ag mewn big band confensiynol gyda 18 aelod, ac yn chwarae cerddoriaeth o oes y swing drwodd hyd at y siartiau cyfoes.
Mae band JCIC yn un o amrywiaeth o fentrau sydd wedi’u creu dan nawdd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Gweinyddir JCIC gan Ty Cerdd - Music Centre Wales, ac mae wedi ymddangos dros Gymru benbaladr. Yn fwy diweddar, bu’n perfformio yn MusicFest Aberystwyth ac yn Proms Cymru lle cafodd gryn groeso a chanmoliaeth.
Menter newydd a chyffrous yw Cwrs Mynediad Jazz, wedi ei anelu at gerddorion ifanc nad ydynt yn barod eto am aelodaeth llawn o JCIC. Bydd y cwrs 3 diwrnod yn helpu datblygu sgiliau fel perfformiad, chwarae onsombl, addasiad ar y pryd ac ymwybyddiaeth arddulliadol.
Dyddiadur Perfformiadau
Gofynion Mynediad JCIC
- Derbynnir ymgeiswyr i'w clyweld ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan Bennaeth Gwasanaeth Cerdd eu sir (neu ei g/chynrychiolydd neu gywerth) a disgwylir iddynt gefnogi gweithgaredd cerddorol yn yr ysgol/coleg ac ar lefel sirol. Os nad oes gweithgaredd sirol, gall y Pennaeth Adran yn yr ysgol neu goleg gefnogi ceisiadau i ddechrau.
- Dylai ymgeiswyr fel arfer fod o safon Gradd VIII er nad oes angen iddynt fod wedi sefyll yr arholiad.
- Dylai ymgeiswyr fod rhwng 12 ac 21 mlwydd oed (neu 22, os ydynt mewn addysg lawn-amser o hyd) ar 31ain Awst 2012.
- Rhaid i chwaraewyr fod ar gael ar gyfer holl ddyddiadau'r cwrs a'r cyngherddau. Gwnewch yn siŵr y byddwch ar gael cyn ymgeisio
Gofynion Cwrs Mynediad JCIC
- Derbynnir ymgeiswyr i'w clyweld ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan Bennaeth Gwasanaeth Cerdd eu sir (neu ei g/chynrychiolydd neu gywerth) a disgwylir iddynt gefnogi gweithgaredd cerddorol yn yr ysgol/coleg ac ar lefel sirol. Os nad oes gweithgaredd sirol, gall y Pennaeth Adran yn yr ysgol neu goleg gefnogi ceisiadau i ddechrau.
- Dylai ymgeiswyr fod rhwng 12 ac 21 mlwydd oed (neu 22, os ydynt mewn addysg lawn-amser o hyd) ar 31ain Awst 2012.
- Rhaid i chwaraewyr fod ar gael ar gyfer holl ddyddiadau'r cwrs a'r cyngherddau. Gwnewch yn siŵr y byddwch ar gael cyn ymgeisio
2012 Residency & Concerts
Music Director: Percy Pursglove
Cwrs Preswyl JCIC: 15 - 18 Chwefror 2012 Ysgol Moreton Hall, ger y Waun
Cyngherddau:
17 Chwefror, Ysgol Moreton Hall, ger y Waun
18 Chwefror, Egwlys Sant Silyn, Wrecsam
Cwrs Mynediad JCIC: 15 - 17 Chwefror 2012 Ysgol Moreton Hall, ger y Waun
Cyngerdd: 17 Chwefror, Ysgol Moreton Hall, ger y Waun
Cysylltwch â
Matthew Thistlewood yn Nh ŷ Cerdd 029 2063 5650 nyjw@tycerdd.info
Am fwy o wybodaeth am JCIC 2012 a ffurflenni cais, cliciwch yma