Western Mail
"When I was in the choir I got the chance to sing with
Bryn Terfel and it's something I'll never forget"
Katherine Jenkins, soprano
Arweinydd 2012: Ralph Allwood
Ffurfiwyd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gan T ŷ Cerdd - Music Centre Wales (fel Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru) ym 1984, i gefnogi traddodiad corawl hirsefydlog Cymru yn ogystal â’r datblygu sydd ei angen er mwyn i’r traddodiad hwnnw ffynnu. Daw aelodau’r Côr, pob un ohonynt rhwng 16 a 21 oed, o bob rhan o Gymru, a byddant yn mynychu clyweliadau bob blwyddyn. Byddant yn cyfarfod am gyrsiau penwythnos o bryd i’w gilydd, ond mae prif waith y Côr wedi ei ganoli ar wythnos o ymarfer dwys yn ystod yr haf, gyda chyfres o gyngherddau i ddilyn.
Mae mwyafrif y tiwtoriaid a’r staff yn gyn-aelodau o’r Côr - roedd Llywydd y Côr, Bryn Terfel, yn un o’r aelodau cyntaf - a chaiff y cyfarwyddwyr cerdd eu penodi am gyfnod o dair blynedd. Ymhlith y cyn-arweinwyr mae George Guest, Gregory Rose, John Hugh Thomas, Simon Halsey, Ralph Allwood, Jean Stanley Jones, David Rowland ac Islwyn Evans. Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cynnal cyngherddau yn Llundain, Berlin, Leipzig, Bruges, Brwsel, Paris, Fienna a Budapest, yn ogystal â pherfformio ar draws Cymru, mewn nifer o brif eglwysi cadeiriol Lloegr ac yn y Proms BBC. Bydd yn darlledu’n rheolaidd ar y teledu a’r radio.
Gofynion Mynediad
- Derbynnir ymgeiswyr i'w clyweld ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan Bennaeth Gwasanaeth Cerdd eu sir (neu ei g/chynrychiolydd neu gywerth) a disgwylir iddynt gefnogi gweithgaredd cerddorol yn yr ysgol/coleg ac ar lefel sirol. Os nad oes gweithgaredd sirol, gall y Pennaeth Adran yn yr ysgol neu goleg gefnogi ceisiadau i ddechrau.
- Dylai ymgeiswyr fel arfer fod o safon Gradd VIII er nad oes angen iddynt fod wedi sefyll yr arholiad.
- Dylai ymgeiswyr fod rhwng 16 - 21 mlwydd oed ar 31ain Awst 2010 (neu 22 os ydynt mewn addysg lawn-amser o hyd).
- Rhaid i gantorion fod ar gael ar gyfer holl ddyddiadau'r cyrsiau a'r cyngherddau. Gwnewch yn siŵr y byddwch ar gael cyn ymgeisio.
Cwrs Preswyl a Thaith Gyngherddau 2012
Yn dilyn gweithdy rhagarweiniol ym mis Mai, bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn cyfarfod ar gyfer ei gwrs preswyl blynyddol yng Ngholeg Malvern ddiwedd Gorffennaf. Yn ystod y 7 diwrnod preswyl yma, bydd y cantorion yn gweithio mewn ymarferion llawn ac adrannol dan gyfarwyddyd ein tîm o diwtoriaid arbenigol, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd, Ralph Allwood, ac yn paratoi rhaglen gymysg ar gyfer perfformiadau ym Mynwy ac yng Nghadeirlan Llandaf. Ceir digon o gyfle i ymlacio a bydd y cantorion hefyd yn mwynhau rhaglen adloniant fywiog gaiff ei threfnu gan y staff bugeiliol. Ymhlith y gweithgareddau, fel arfer, mae nofio, pêl-droed a rownderi, a digwyddiadau gyda’r nos fel cwisiau, noson ddoniau a llawer mwy. Uchafbwynt dyddiadur y Côr fydd perfformiad o’r ‘Offeren’ gan Leonard Bernstein yn y BBC Proms, a gynhelir yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac aelodau Cerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Arweinydd: Ralph Allwood
Gweithdai:
10 Mawrth, Llandrindod
5 Mai, Llandrindod
Preswyl: 22 - 28 Gorffennaf 2012 Coleg Malvern, Great Malvern
Cyngherddau:
27 Gorffennaf, Eglwys y Priordy Trefynwy
28 Gorffennaf, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd
Prom y BBC:
Dyddiadau: 04 - 06 Awst
Cyngerdd: 6th Awst, Neuadd Brenhinol Albert, Llundain
Cysylltwch â
Matthew Thistlewood yn Nh ŷ Cerdd 029 2063 5650 nycw@tycerdd.info
Am fwy o wybodaeth am CCIC 2012 a ffurflenni cais, cliciwch yma