Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
"One of the most impressive ensembles in the principality"
Composers of Wales Newsletter

"NYBBW has helped to create some amazing players"
The British Bandsman

Arweinydd 2012 : Dr Nicholas Childs

Ffurfiwyd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, dan arweiniad ei gyfarwyddwr cerdd cyntaf a’r llywydd presennol, Edward Gregson, ym 1982 gan Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, sy’n parhau i ddarparu cefnogaeth weinyddol a nawdd fel partner yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Daw aelodau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) o bob cwr o Gymru a byddant yn cael clyweliadau neu ailglyweliadau bob blwyddyn. Erbyn hyn, mae nifer fawr o’r cyn-aelodau yn enwog fel unawdwyr, arweinwyr neu fel perfformwyr gyda bandiau neu gerddorfeydd mwyaf blaenllaw Prydain.

Ers y cyngerdd agoriadol yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe, daeth Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn enwog am berfformio gweithiau cyfoes. Comisiynodd y Band weithiau cerddorol gan nifer o gyfansoddwyr, ac yn eu plith Alun Hoddinott (8fed Symffoni), Mervyn Burtch, Christopher Painter, John Phillips, John Pickard (Symffoni Gaia), Peter Graham, Nigel Clarke a Martin Ellerby.

Dyddiadur Perfformiadau

Gofynion Mynediad

Cwrs Preswyl a Thaith Gyngherddau 2012

Bydd BPCIC yn cwrdd am ei gwrs preswyl blynyddol yn ystod gwyliau'r haf. Yn ystod yr wythnos bydd y chwaraewyr yn cael eu tiwtora'n arbenigol gan dîm o diwtoriaid profiadol yn arwain gan Dr Nicholas Childs. Yn ogystal â cherddori, bydd aelodau'r band yn mwynhau rhaglen fywiog o adloniant fydd yn cael ei rhedeg gan y staff bugeiliol. Bydd y gweithgareddau fel arfer yn cynnwys chwaraeon megis nofio, pêl-droed a rownderi, a digwyddiadau gyda'r nos megis cwis, nosweithiau talent a llawer mwy. Daw'r wythnos i ben â pherfformiadau ym MusicFest Aberystwyth ac Eglwys Gadeiriol Llandaf.

 

Arweinydd: Dr Nicholas Childs
Preswyl: 22 - 28 Gorffennaf 2012 Coleg Malvern, Great Malvern
Cyngherddau:
27 Gorffennaf, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (Aberystwyth MusicFest)
28 Gorffennaf, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

Cysylltwch â

Matthew Thistlewood yn Nh ŷ Cerdd 029 2063 5650 nybbw@tycerdd.info

Am fwy o wybodaeth am BPCIC 2012 a ffurflenni cais, cliciwch yma

Cysylltau Perthnasol

Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Dyddiadur