Zap y Ci.
Mae Ray Farr, arweinydd newydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn dweud mwy wrthym:
Cw: Pam y gwnaethoch chi ddewis Dog Breath Variations gan Frank Zappa ar gyfer repertoire y band?
A: Mae'n syml: Dwi'n credu ei fod yn gerddoriaeth gwallgof - cellweirus a hwyl, ond mae'n anodd iawn i'w chwarae, yn enwedig i'r offerynnwyr taro. Bydd yn brofiad gwirioneddol i'r chwaraewyr. Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl y byddan nhw wrth eu bodd.
Cw: Ar wahân i'r ci cerddorol gyda halitosis, beth arall sydd ar y gweill ar gyfer cyngerdd BPCIC eleni?
A: Y bwriad yw dod â rhagolwg ar gerddori i chwaraewyr pres ifanc a fydd yn para am oes ac yn eu hysbrydoli i'w cyflawniad mwyaf, gobeithio. Mae angen llawer o sgiliau i gerddori, sgiliau sydd, pan fyddant wedi'u cyfuno ag egni'r ifanc, yn gallu cynhyrchu canlyniadau arbennig iawn.
Cw: I'r rheini nad ydynt yn gyfarwydd â chyngherddau band pres, rhowch syniad o beth i'w ddisgwyl os byddant yn dod i un o'n dyddiadau yn yr haf?
A: Bydd naws arbennig iawn i'r cyngherddau a gyflwynir. Pam? Oherwydd bod hyn yn gyfle i ddod ac arsylwi'r hyn a ddysgwyd gan y bobl ifanc ar eu cwrs a gall y gynulleidfa fod yn rhan uniongyrchol o rhywbeth a fydd yn fwy na phrofiad cyngerdd arferol.