Hosan lawn cerddoriaeth y Nadolig hwn.
Rhowch eich dychymyg ar waith ... yr haul yn danbaid dros Fae Abertawe a'r môr yn anwesu'r tywod euraid. Ymwelwyr lu yn ddedwydd ar y traeth; bwcedi, rhawiau, hufen iâ ac eli haul yn drwch ... wedi'r cyfan, dyma anterth haf tesog 2005.
Nawr dychmygwch wynebau dryslyd yr un ymwelwyr wrth i nodau Jingle Bells a Winter Wonderland lenwi'r awyr...
Ar ddiwedd taith gyngherddau lwyddiannus haf 2005 recordiodd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ddetholiad o gerddoriaeth y Nadolig yn Neuadd Brangwyn Abertawe. Rhyddhawyd Christmas Spirit, cd o gerddoriaeth y Nadolig gan CGIG ac Owain Arwel Hughes, ddydd Iau 8 Rhagfyr.
Roedd y recordiad yn caniatáu i'r gerddorfa brofi ffordd newydd sbon o weithio a oedd yn ategu trefn arferol yr hyfforddi, yr ymarferion a'r cyngherddau.
Roedd yn brofiad hynod o bleserus, ac yn arwain y ffordd ar gyfer recordiad arbennig iawn y flwyddyn nesaf ar achlysur 60fed Pen-blwydd y Gerddorfa, recordiad a gaiff ei ryddhau i gyd-fynd â pherfformiad cyntaf y Gerddorfa ym Mhroms Cymru ym mis Gorffennaf 2006.
Am fanylion Christmas Spirit cysylltwch â: Catherine Barry (029 2026 5060; catherine.barry@nyaw.co.uk).