Agor adeilad newydd y Senedd.
Band Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fydd yn seinio'r gerddoriaeth gyntaf i'w chlywed y tu mewn i adeilad Senedd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Mawrth 2006.
Bydd BPSCIC, sy'n cynnwys 16 o offerynwyr pres o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru, yn cyflwyno ffanffer newydd a gomisiynwyd gan y cyfansoddwr Richard Elfyn Jones. Bydd y ffanffer, a gomisiynwyd ar gyfer BPSCIC gan Tŷ Cerdd-Music Centre Wales trwy Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, yn cyhoeddi dyfodiad y garfan frenhinol ar gyfer agoriad yr adeilad ddydd Gwyl Ddewi.
Perfformir y ffanffer ddwywaith - yn gyntaf y ffurf fer, ac yna'r ffurf lawn, sy'n arwain i mewn i anthem genedlaethol Cymru.
Bydd BPSCIC, o dan ei Gyfarwyddwr, yr Athro James Watson, hefyd yn perfformio'r gerddoriaeth ar gyfer y sesiwn "cwrdd a chyfarch" brenhinol a bydd yn cyfeilio i ddau gyd-breswyliwr o Ganolfan Mileniwm Cymru, sef Cwmni Dawns Diversions a Hijinx / Odessey Theatre mewn gwaith arall a gomisiynwyd yn arbennig.
Noder: Yn yr haf clywyd Dolbadarn, ffanffer gomisiwn arbennig Gareth Glyn ar gyfer agoriad Canolfan Mileniwm Cymru a chwaraewyd gan BPSCIC, yn ei ffurf newydd ar gyfer bandiau pres, pan berfformiwyd hi i gyflwyno pob un o gyngherddau haf BPCIC.