Archif Newyddion
Awst 2010
Gwahaniaeth Diwrnod
Mae pumdeg a pum aelod Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2010 yn preswylio yn Aberystwyth ar hyn o bryd - yn gweithio rhwng y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau - i greu, ymarfer a lansio eu cynhyrchiad am 2010, Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today, cyn cychwyn ar daith i Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Glan yr Afon, Casnewydd.
Mae ThCIC yn gyffrous iawn am y cynhyrchiad eleni gan ei fod yn llwyfannu gwaith newydd sbon a ysgrifennwyd gan bobl ifanc. Canlyniad gwaith sawl penwythnos gydag Awduron Ifanc ThCIC yw Diwrnod Heb Ei Debyg. Cyfrannodd yr awduron ifanc eu lleisiau, syniadau, dyheadau a'u breuddwydion er mwyn cynhyrchu sgript fydd yn gryn her i aelodau ThCIC 2010. Gyda chefnogaeth yr awdur gwobrwyol, Manon Eames, a'r cyfarwyddwr gwobrwyol, Tim Baker, mae'r ddrama newydd hon yn mynd â'r gynulleidfa ar daith drwy bedair awr ar hugain ym mywyd tref gyffredin yng Nghymru, yn yr haf 2010, trwy lygaid pobl ifanc.
“Ers i mi gymryd swydd fel Cyfarwyddwr Artistig ThCIC yn 2008, bu'n ddymuniad brwd gennyf gael clywed lleisiau'n pobl ifanc ar ein llwyfan genedlaethol. Eleni, cafodd y freuddwyd honno'i gwireddu diolch i waith anhygoel ein Hawduron Ifanc”
Tim Baker, Cyfarwyddwr Artistig ThCIC
“Giving young people a voice through such a brilliant voicebox as theatre is inspiring”
Awdur Ifanc ThCIC
Mae'n rhaid i drigolion dychmygol pentref dychmygol Llanhynallallacarall - y breuddwydwyr, y cynllwynwyr, y chwerw, yr hynaws, y rhai dan warchae a'r rhai cwbl wallgo' - gyrraedd diwedd un dydd Gwener penodol yn yr haf, rhywsut neu'i gilydd.
Gyda chefnogaeth tîm artistig proffesiynol o bymtheg aelod, mae actorion y Theatr Ieuenctid yn datblygu eu sgiliau perfformio, tra bod aelodau'r tîm cefn llwyfan yn mireinio eu sgiliau dylunio a chynhyrchu. Gyda'i gilydd, maent yn llunio cynhyrchiad, uchelgeisiol arall ar raddfa fawr a fydd, yn ôl gwir draddodiad ThCIC, yn hoelio sylw, yn hysbysu ac yn difyrru cynulleidfaoedd.
“The dedication and enthusiasm of our young people is second to none; they rise to every challenge we put before them, and contribute amazing energy and enthusiasm to every task."
Pauline Crossley – Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Cymraeg a Saesneg yn Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today
Dydd Gwener 3ydd Medi |
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth |
Dydd Sadwrn 4ydd Medi |
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth |
Dydd Mawrth 7fed Medi |
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug |
Dydd Iau 9fed Medi |
Glan yr Afon, Casnewydd |
Dydd Gwener 10fed Medi |
Glan yr Afon, Casnewydd |
Tocynnau: £12, £9 gostyngiadau, £6 myfyrwyr
Llongyfarchiadau i aelodau canlynol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a dderbyniodd wobrau yn 2010:
Yn y llun gwelir Blaenwr CGIC, Elanor Gunn, enillydd Gwobr Urdd Lifrai Cymru gyda'r Arweinydd, Owain Arwel Hughes CBE
(Llun: Geraint Todd)
Gwobrau
|
Derbyniwyd gan |
gwobr Ffrancon Thomas i’r chwaraewr y bernir iddo wneud cyfraniad nodedig i’r Gerddorfa, yn gerddorol ac yn gyffredinol |
Erin Morrey & Sebastian Pennar |
gwobr Haydn Davies i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal yn yr ysgol |
Jonathan Davies |
gwobr Goronwy Evans i’r chwaraewr pres mwyaf addawol |
Matthew Williams |
gwobr Gwynne Edwards i'r chwaraewr fiola y bernir ei f/bod wedi gwneud y cynnydd mwyaf yn ystod cwrs yr haf |
Angharad Thomas |
gwobr Cyfeillion CGIC i’r chwaraewr llinynnau mwyaf addawol |
Eluned Williams |
Gwobr Taliesin I’r chwaraewr telyn sydd wedi cyfrannu fwyaf at yr adran yn ystod y cwrs |
Anne Denholm |
gwobr Urdd Lifrai Cymru i'r myfyriwr mwyaf addawol mewn coleg neu yn y brifysgol sydd am ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth |
Elanor Gunn |
gwobr David Harris i’r chwaraewr sielo mwyaf addawol sy’n dal yn yr ysgol |
Pollyanna Furness |
Gwobr Offerynnau Taro'r Staff |
Elizabeth Stephens |
Gwobr Chwythbrennau'r Staff |
Sam Turton |
Gorffennaf 2010
Taith o Gyngherddau i Ddathlu
Bydd yr haf eleni'n gweld diwedd ar gyfnod arall yn hanes nodedig CGIC wrth i Owain Arwel Hughes CBE roi'r gorau i'w waith fel Prif Arweinydd y Gerddorfa.
Bu cyfraniad Owain i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn arwyddocaol. Yn ystod yr wyth mlynedd a dreuliodd gyda'r Gerddorfa, cyflwynodd berfformiadau cyntaf yn yr Young Euro Classic Festival yn Berlin, Proms Cymru, ynghyd â Julian Lloyd Webber, a'r gerddorfa hon hefyd oedd y gerddorfa ieuenctid gyntaf erioed i berfformio yn yr ŵyl nodedig yn Henffordd, Gŵyl y Tri Chôr. Yn 2007, derbyniodd y Gerddorfa gyfan wahoddiad gan y diweddar Arglwyddes Walton i berfformio cyngerdd cloi tymor cyngherddau'r haf yn La Mortella ar ynys Ischia yn yr Eidal. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae perfformiad i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda'r actor o Hollywood, y Cymro Matthew Rhys, perfformiad cyntaf yn lleoliad nodedig y Sage yn Gateshead ac ail gyngerdd a werthwyd allan yng Ngŵyl y Tri Chôr y llynedd.
Yr haf hwn, bydd CGIC yn casglu ynghyd 113 o gerddorion ifanc mwyaf talentog Cymru i dreulio pythefnos yn cerddori i safon uchel. Gan gynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru, bydd yr aelodau (sydd rhwng 13-21 mlwydd oed) yn cwrdd am wythnos o ymarfer dwys cyn cychwyn ar daith gyngherddau. Eleni, bydd y daith honno'n cynnwys y canlynol: Eglwys Gadeiriol Tyddewi (yno bydd y Gerddorfa'r cyflwyno cyngerdd cloi Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Ym mis Medi, bydd y Gerddorfa'n agor Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy cyn teithio i Fanceinion i berfformio cyngerdd am y tro cyntaf yn y Royal Northern College of Music.
Mae'r rhaglen yn un gyffrous iawn eleni gan gynnwys y gweithiau La Mer gan Debussy a'r 2 il Symffoni wych gan Rachmaninov, ynghyd â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, Brian Hughes. Dathlu, yn wir, yw bwriad y cyngherddau'r haf hwn. Dewch i ymuno â ni, a chefnogwch dalent ifanc Cymru am haf arall cyffrous o gerddoriaeth i CGIC. Cymrwch gip ar ein tudalen dyddiadur. Yno, fe welwch fanylion cyngherddau tymor yr haf gyda pherfformiadau trwy Gymru.
Deuddeg Dawnsiwr, Deuddeg Diwrnod a Dau Berfformiad Cyntaf
Mae deuddeg o ddawnswyr ifanc cyfoes gorau Cymru (rhwng 16 – 21 mlwydd oed), sy'n dod o bob rhan o Gymru, wrthi'n preswylio ar hyn o bryd yn UWIC, Caerdydd. Maen nhw'n paratoi at yr hyn sy'n argoeli i fod yn berfformiad heb ei ail yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar ddydd Gwener 30 Gorffennaf 2010.
Dewiswyd deuddeg aelod Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) trwy glyweliad yn gynharach eleni, ac ers hynny buont yn disgwyl yn eiddgar am ddechrau'r breswylfa ddeuddeg diwrnod. Maen nhw bellach ar ganol amserlen galed sy'n cynnwys dosbarth techneg dawns dyddiol, gweithdai creadigol, coreograffi ac ymarfer – a'r cyfan oll er mwyn paratoi am y noson o ddawns yn Aberhonddu.
Bydd Cyfarwyddwr Artistig/Coreograffydd DGIC, Errol White, yn cymryd egni a syniadau'r dawnswyr ifanc ac yn eu cymysgu â'i arddull symud nodedig ei hun. Yn ystod y cyfnod preswyl, byddan nhw'n creu ac yn ymarfer darn newydd sbon – mor newydd yn wir nad oes teitl iddo eto hyd yn oed! Mae'n argoeli i fod yn gyffrous, ffyrnig a difyrrus.
Eleni bydd gan DGIC gwmni wrth iddynt berfformio, sef y Cylch Cyfoedion – cwmni o bum dawnsiwr ifanc, pob un ohonynt yn gyn-aelodau DGIC. Eto, mae Errol wedi gweithio gyda'r artistiaid dawns proffesiynol hyn er mwyn creu'r ail ddarn newydd sbon i'w berfformio am y tro cyntaf yn Theatr Brycheiniog ar ddiwedd mis Gorffennaf. Mae'r darn, â'r teitl digon eironig, A State of Rest, eto'n ddarn cyflym a chyffrous â thrac sain o gerddoriaeth drefol, guriadol.
“I hope to create a programme with NYDW that is physically engaging and exciting to watch and perform; and I’m confident that that the young dancers and I will be proud of the work we generate, rehearse and perform this summer”.
Errol White, Cyfarwyddwr Artistig DGIC
Ganwyd Errol White yn Hull ac ar ôl gwneud y trawsnewidiad llwyddiannus o Rygbi'r Gynghrair (!), trwy freg-ddawnsio i ddawnsio cyfoes, perfformiodd gyda rhai o gwmnïau dawns cyfoes gorau'r DU, yn eu plith y cwmni o Gymru Diversions – Cwmni Dawns Cymru (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru erbyn hyn). Hon yw ail flwyddyn Errol gyda DGIC.
DGIC 2010
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Dydd Gwener 30 Gorffennaf (8pm)
Tocynnau: £12, £9 (consesiynau), £6 (myfyrwyr)
Swyddfa docynnau: 01874 611 622
Mai 2010
Bellach mae aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2010 wedi'u dethol ac yn barod i Berfformio dros Gymru yn ystod yr haf.
Cafodd dros 240 o gerddorion ifanc o Gymru gyfan eu clyweld yn ystod yr hydref gyda 116 o aelodau'n cael eu dethol.
Bydd 33 aelod newydd yn 2010, gyda'r ieuengaf ohonynt yn cyrraedd 13 oed wyth diwrnod cyn ei chwrs 'Nash' cyntaf. I'r pegwn arall, mae 14 aelod y bydd eu gyrfa gyda'r 'Nash' yn dod i ben, yn eu plith Elanor Gunn sy'n parhau i fod yn flaenwr y Gerddorfa yn 2010.
Bydd y Gerddorfa'n cwrdd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, am wythnos ddwys o ymarfer cyn mynd ar daith fer o Gymru gan berfformio cyngerdd cloi Gŵyl Abergwaun yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a chyngherddau yng Nghanolfan y Celfyddydau Abertystwyth a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Bydd y Gerddorfa'n ail-ymgynnull ym mis Medi er mwyn perfformio cyngerdd agoriadol Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn Llanelwy a chyngerdd yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion. Mae manylion llawn yr holl gyngherddau a sut i brynu tocynnau i'w cael ar ein tudalen dyddiadur.
Eleni bydd y repertoire yn cyfuno dau o gampweithiau'r cyfnod rhamantus - La Mer gan Debussy ac 2 il Symffoni Rachmaninov – ynghyd â darn a gyfansoddwyd gan y Cymro, Brian Hughes, sy'n waith ar gyfer 2010 a gomisiynwyd ar y cyd gan Gyfeillion CGIC, Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru a Gŵyl Abergwaun.
Ebrill 2010
Chwifio'r faner dros Gymru
Llongyfarchiadau a Phob Lwc i Lara Jones (Corn Tenor), Lloyd Pearce (Trombôn Bas), aelodau presennol Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac i Matthew Horne (Trombôn) a Gwyn Owen (cornet/trwmped), aelodau presennol Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru – maent wedi'u dewis i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop.
Bydd y pedwar cerddor yn teithio i Linz yn Awstria y penwythnos hwn, lle y byddan nhw'n gweithio gyda rhai o'r chwaraewyr ifanc gorau o Ewrop gyfan dan arweiniad Karl Geroldinger – Cyfarwyddwr Ysgolion Cerdd Awstria Uchaf ac Arweinydd Cerddorfa Chwyth Symffonig Ried .
Hoffai Cymdeithas Bandiau Pres Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ddymuno'r gorau iddyn nhw. Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed am eu profiad!
Yn Datgan Clyweliadau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2010
Mae DGIC am geisio dewis hyd at 15 dawniwr ifanc rhwng 16 – 21 oed ar gyfer cwrs preswyl dwys dros bythefnos ym mis Gorffennaf 2010. Yn ystod yr amser hwn byddant yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Artistig DGIC, Errol White, i greu a pherfformio darn newydd sbon o goreograffi.
Cynhelir clyweliadau rhanbarthol ar gyfer DGIC 2010 ar 8 Mai (Caerdydd), 9 Mai (Conwy), 15 Mai (Caerfyrddin) a 16 Mai (Caerdydd). Rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod yn ymwneud â dawns ar lefel ganolradd/uchel, ac mae’n rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer y pythefnos lawn pan gynhelir y cwrs preswyl (19 - 31 Gorffennaf 2010).
Dylai ymgeiswyr un ai fod â’u cartref teuluol yng Nghymru, yn byw yng Nghymru neu yn astudio yng Nghymru er mwyn cael eu hystyried ar gyfer DGIC 2010.
Gwybodaeth bellach a ffurflen gais ; dyddiad cau 26 Ebrill 2010
Mawrth 2010
CChGIC yn cyflwyno rhaglen wefreiddiol, sy’n cynnwys dau ddarn o waith newydd
Ar ôl taith hynod lwyddiannus i Lwcsembwrg yn 2009, mae Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd i gyflwyno rhaglen gyffrous a gwefreiddiol. Yn arddangos talentau dros bumdeg o gerddorion ifanc, mae’r cyngerdd, ar ddydd Sul 4 ydd Ebrill am 3.00pm yn Neuadd William Aston, Wrecsam yn ganlyniad i wythnos o ymarferion dwys o dan arbenigedd Colin Touchin.
Mae’r rhaglen yn cynnwys dau berfformiad cyntaf yn y byd - Footfall gan Chris Petrie, cyn aelod o’r Gerddorfa Chwyth ac A Beade of Amber gan Colin Touchin. Bydd hefyd yn cynnwys Ride gan Samuel Hazo a Symffoni Rhif 2, gwaith dwys personol gan David Maslanka.
Tocynnau £8, consesiynau £6, plant dan 18 oed am ddim
Tocynnau ar gael gan www.eventelephant.com/nywow
Ionawr 2010
Dyddiau Dawns Cyfoes gydag Errol White
Mae'n bleser gan Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru groesawu Errol White i arwain cyfres o ddyddiau dawns cyfoes ar gyfer dawnswyr ifanc yng Nghymru! Mae yna barch mawr iawn at Errol fel dawnsiwr a choreograffydd ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol ac, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus gyntaf gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn 2009, mae ar fin dechrau ar ei ail flwyddyn fel Tiwtor a Choreograffydd Gwadd DGIC.
Bydd Errol a'i dîm yn arwain cyfres o ddyddiau dawns cyfoes mewn lleoliadau ar draws Cymru yn ystod Mawrth 2010 (mae'r dyddiadau a'r lleoliadau wedi'u rhestru ar y Ffurflen Gais y mae modd ei llwytho i lawr yma). Bydd pob diwrnod llawn yn cynnwys: techneg gyfoes, gwaith creadigol a choreograffi. Bydd y sesiynau'n adeiladu ar y sgiliau a phrofiad dawns y mae'r cyfranogwyr eisoes yn meddu arnynt ac yn cynnig cyfleoedd i archwilio amrywiaeth o syniadau trwy ddawns greadigol a chyfoes. Bydd y sesiynau hefyd yn cyflwyno'r cyfranogwyr i arddull symud Errol, a'r disgwyliadau a safonau sydd eu hangen er mwyn bod yn aelod o DGIC.
Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 14 - 21 oed ac yn gallu dangos eu bod yn ymwneud â dawns ar lefel ganolradd/uchel.
Ionawr 2010
Y Côr Hyfforddi i berfformio yn Eglwys y Santes Fair, Y Trallwng
Gwelwyd cynnydd dramatig eleni o ran nifer y bobl ifanc a oedd yn gwneud cais i ymuno â Chôr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Dywedodd Matthew Thistlewood, Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Ieuenctid, yr oedd yn hapus iawn ag ymateb eleni, yn enwedig y cynnydd o ran ceisiadau gan fechgyn.
Bydd y Côr Hyfforddi yn preswylio rhwng 17 - 21 Chwefror yn Neuadd Ysgol Moreton, Y Waun, er mwyn paratoi am y cyngerdd yn Eglwys y Santes Fair, Y Trallwng, ar ddydd Sul 21ain Chwefror (3.00pm).
Mae repertoire y cyngerdd yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau o drefniadau poblogaidd megis Blue Moon a Money, Money, Money i Offeren yn Bb gan Hummel a cherddoriaeth Gymreig gan Mathias a Mervyn Burtch.
Mae Simon Toyne, Cyfarwyddwr Cerdd CHCIC eleni, hefyd yn Bennaeth Cynorthwyol ac yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Ysgol Tiffin, Kingston Upon Thames, Surrey, ac yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys Blwyf Kingston, y mae ei chôr enwog wedi darlledu ar BBC1, Radio 4 a Gwasanaeth Radio'r Byd.
Tocynnau: £6 (mynediad am ddim i blant ysgol) - ar gael wrth y drws neu gan Tŷ Cerdd (029 20 635640) neu Canolfan Ymwelwyr Y Trallwng (01938 552043).
Gyda thristwch mawr cofnodwn farwolaeth Robin Jones
Bu Robin yn ddarlledwr tra hoffus ar S4C am nifer o flynyddoedd, ac roedd ei lais yn gyfarwydd mewn lleoliadau, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant. Roedd yn gyflwynydd heb ei ail, gan roi o'i amser a'i wasanaeth proffesiynol o'i wirfodd mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol, yn enwedig y rheiny oedd yn ymwneud â phobl ifanc. Ef oedd cyflwynydd cofiadwy cyngerdd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru cyn iddo fynd ar daith i Ganada, a'r corau meibion cyfunedig yng Nghanolfan y Mileniwm - gan gyflawni eich uchelgais i arwain y lluoedd coral yn llawn hiwmor. Mawr fydd ei golled o ran ei eiriolaeth dros ddiwylliant Cymreig, ei gwmni da, ac yn enwedig ei ddiddordeb brwdfrydig dros Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - yn enwedig y Côr, y mae ef a'i deulu wedi bod yn gysylltiedig ag ef ers amser.
Aelodau CGIC yn cael eu gwahodd i ddathlu Nos Galan gyda CGIA
Gwahoddwyd feiolinwyr o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ymuno a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid yr Alban ar ei Chwrs Gaeaf.
Manteisiodd Eleanor Gunn, Blaenwr CGIC 2009, a Gwenno Roberts ar y cynnig i berfformio gyda CGIA. Mae'n rhaid bod Eleanor wedi teimlo'n eithaf cartrefol gan ei bod yn astudio, ar hyn o bryd, yn Academi Frenhinol yr Alban. Dywedodd Gwenno, sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, yr oedd yn gyfle arbennig i chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid arall.
Daeth y cwrs i ben a chyngherddau yn Neuadd Usher, Caeredin a Neuadd Gyngerdd Frenhinol, Glasgow, dan arweiniad arweinydd blaenorol CGIC, Christopher Adey.
Rhagfyr 2009
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru i berfformio yn y Gala Dawns Ieuenctid.
Bob blwyddyn, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru'n cynnal Gala Dawns Ieuenctid yn y Tŷ Dawns, i ddathlu'r gwaith dawns ieuenctid gorau ledled Cymru.
Mae DGIC yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad, gan weithio gyda'r Coreograffydd Gwadd, Errol White ac yn rhoi llwyfan i 'Valid Rand'.
Mae'r Gala Dawns Ieuenctid yn ffordd wych o ddod â dawnswyr ifanc, ymroddedig a thalentog at ei gilydd i weld amrywiaeth o waith a safon uchel y perfformiadau mae pobl ifanc heddiw'n ei gyflawni.
Cynhelir y Gala yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 4ydd Rhagfyr, gyda 3 pherfformiad 2.00pm, 4.00pm and 7.00pm.
Tocynnau £8, £6
Swyddfa Docynnau 08700 40 2000
Adam Gorb yn Ennill Gwobr am Gomisiwn ar Gyfer Cerddorfa Chwyth
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Adam Gorb wedi ennill gwobr am ei gyfansoddiad o Farewell yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig 2009. Comisiynwyd Farwell ac fe'i berfformiwyd am y tro cyntaf gan Gerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CChGIC) ar gyfer ei thaith i Lwcsembwrg ym mis Ebrill 2008.
Derbyniodd Adam ei drydedd wobr mewn saith mlynedd yn y categori ar gyfer Band Chwyth neu Fand Pres. Dywedodd y beirniaid bod y cyfansoddiad buddugol "yn waith hynod o wreiddiol, wedi'i sgorio'n hyfryd, yn ddewr ac yn epig." Gwnaethant ddisgrifio uchafbwynt y darn "yn anhygoel i wrando arno". I grynhoi: "Saif y gwaith buddugol ar ei ben ei hun, ac mae wedi'i grefftio gan wir feistr o'r genre."
Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Cyfansoddwr Prydeinig eleni mewn seremoni a gynhaliwyd gan BASCA (British Academy of Songwriters, Composer and Authors) yng Nghymdeithas y Gyfraith, Llundain.
Maecenas Music sy'n cyhoeddi Farewell, a gellir gwrando ar berfformiad llawn ar eu gwefan www.maecenasmusic.co.uk
Ffotograff: Alan Gorb gyda'r arweinydd Timothy Reynish a'r Gerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mherfformiad cyntaf Farewell.
CYDWEITHIO RHWNG CGG Y BBC / CGIC 2009 - Bethany Elliott (OBO) - barn aelod o CGIC
Roedd y cydweithio rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, yn ddi-os, yn brofiad na fyddwn byth yn ei anghofio.
Cwblhawyd y repertoire a'r manylion ychydig wythnosau cyn y cwrs. Mae'n rhaid dweud, roeddwn yn teimlo'n amheus ynghylch y cwrs ar y dechrau gan feddwl mai penwythnos o chwarae cerddoriaeth 'cheesy' fyddai a gwisgo fel ysgerbwd!!
I raddau helaeth, dyma oedd y penwythnos. Fodd bynnag, roedd yn llawer mwy heriol ac yn fwy o hwyl nag yr oeddwn wedi meddwl. Roedd y repertoire yn anoddach o lawer nag yr oedd yn edrych, ac oherwydd yr oeddem yn chwarae gyda cherddorfa broffesiynol, roedd disgwyl i safon yr holl chwarae fod yn uchel. Roedd darnau megis Sorcerer's Apprentice yn anodd iawn yn dechnegol, ac eto roedd darnau eraill yn wir brawf o stamina, gyda The Ghostbuster's yn enghraifft dda o hyn! Ar lefel mwy personol, gofynnodd prif chwaraewr obo CGG y BBC i mi chwarae un o brif rannau unawd y cyngerdd - thema Swan Lake. Roedd cymaint o ofn arnaf ond roedd y chwaraewyr proffesiynol mor gefnogol. Roedd yn galondid mawr i mi wybod bod y prif chwaraewr obo a Grant Llewelyn, yr arweinydd, yn ymddiried cymaint ynof i'w chwarae yn y cyngerdd go iawn!
O ran y cyngerdd ei hun, roedd yn gymaint o hwyl. Roeddwn wrth fy modd yn gweld wynebau'r plant yn llawn cynnwrf yn enwedig pan oedd cymeriadau megis Batman a'r Dyn Seiber o DR WHO yn archwilio'r neuadd. Mae'n rhaid i mi ddweud mai fy ffefryn personol i oedd gweld Matt Jones o CGIC wedi gwisgo fel panther pinc iawn!!
Rhwng popeth, roedd y Cyngerdd Noson o Arswyd Calan Gaeaf yn gyngerdd bythgofiadwy. Sicrhaodd y cyfuniad o gerddoriaeth, goleuo, y wisg gyngerdd hurt a'r staff/plant mewn gwisg ffansi bod y cyngerdd yn difyrru'r gynulleidfa a phawb oedd ynghlwm. Roedd yn noson i'w chofio yn bendant!
Perfformiwch Dros Gymru gyda'r ThCIC yn 2010
Yn y Flwyddyn Newydd, bydd tîmau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ar hyd a lled Cymru yn chwilio am rai o actorion, dylunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr mwyaf talentog Cymru (i bobl ifanc rhwng 16 - 21 mlwydd oed).
Mae ffurflenni cais ar gael NAWR a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais wedi'u llenwi yw Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2009. Gallwch lwytho ffurflen i lawr trwy ddilyn y cysylltau uchod neu ffonio neu anfon e-bost i'r swyddfa a byddwn yn rhoi copi yn y post i chi. (02920 265060 | nyaw@nyaw.co.uk)
Tachwedd 2009
Cyngerdd Noson o Arswyd Calan Gaeaf - Gwerthwyd Allan!
Profodd y cydweithio eleni rhwng CGIC a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i fod yn llwyddiant ysgubol.
Roedd gan bob un o'r 50 aelod CGIC a ddewiswyd aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn bartner desg iddyn nhw, er mwyn ymarfer a pherfformio gyda nhw. Cafodd rhai o'n haelodau ni hefyd eu dewis i berfformio darnau'n unigol.
Uchafbwynt y cydweithio hwn oedd cyngerdd ysbrydoledig yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gydag alawon ffilm yn thema'r noson. Amrywiodd y rhain o Prentis y Dewin Dukas i Harry Potter and the Philosopher's Stone Williams.
Roedd y gynulleidfa wedi'u gwahodd i ddod mewn gwisg ffansi ar gyfer yr achlysur ac roedd artistiaid colur gerllaw er mwyn ychwanegu'r manylion i orffen y wisg. Gwisgodd y Gerddorfa i gyd siwtiau sgerbwd ac roedd yr Arweinydd Gwadd, Grant Llewellyn, yn edrych yn ysblennydd yn ei glogyn satin coch a du.
Aeth Mathew Jones, Rheolwr Cerddoriaeth Ieuenctid CGIC, i ysbryd y noson hefyd a gwisgodd fel y Pink Panther!
BPCIC
Yn 2009 bydd Cyfarwyddwr Cerdd BPCIC, Dr Robert Childs, yn rhoi'r gorau iddi ar ôl treulio 10 mlynedd wrth y llyw. Dathlwyd yr achlysur hwn gan gyngerdd ffarwél yn Neuadd y Brangwyn fel rhan o ŵyl Abertawe ym mis Hydref
Roedd yn gyngerdd emosiynol iawn gyda chyflwyniadau gan Keith Griffin - Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd a David Maybe - Cadeirydd Cyfeillion BPCIC.
Perfformiodd CCIC y 'Meseia' gan Handel yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain
Arweinydd CCIC eleni oedd David Lawrence fu'n arwain y Côr mewn perfformiadau yn Llanelwy a Wrecsam yn ogystal â gerbron cynulleidfa orlawn yng Ngŵyl Cerddoriaeth Glasurol Conwy.
Canolbwynt y tymor oedd perfformiad o 'Meseia' ym mis Medi fel rhan o 'Proms' y BBC yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain. Ymunodd CCIC â chwech o gorau eraill, gyda Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr a Chôr Ieuenctid yr Hallé yn eu plith, i ffurfio corws o dros 320 o leisiau mewn perfformiad i goffáu 250 mlynedd ers marwolaeth Handel. Derbyniodd y cyngerdd - gyda phob tocyn wedi ei werthu fisoedd ymlaen llaw - ganmoliaeth yn y wasg yn gyffredinol a chafwyd y sylw hwn yn y 'Daily Telegraph, "...when the choir burst in with 'And the Glory of the Lord' I knew we were in for something magnificent. The sound of those young voices was simply thrilling in a way that brooks no argument."
Medi 2009
CCIC yn perfformio yn Proms y BBC
Pob lwc i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a fydd yn perfformio Meseia Handel yn Neuadd Frenhinol Albert fel rhan o dymor Proms y BBC y dydd Sul hwn. Gan ffurfio rhan o gôr cyfun, bydd aelodau CCIC yn perfformio ochr yn ochr â chyfoedion o Gorws Symffoni Ieuenctid Dinas Birmingham, Côr Ieuenctid Hallé, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr a Quay Voices o The Sage Gateshead yn ogystal ag unawdwyr rhyngwladol a'r Northern Sinfonia dan arweiniad Nicholas McGegan. Mae'n argoeli i fod yn brofiad ardderchog i aelodau ifanc y côr a phob dymuniad da iddynt wrth chwifio'r faner dros Gymru.
Canrif / Century - perfformiad cyntaf erioed a thaith genedlaethol
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn barod i gyflwyno drama newydd sbon i gynulleidfaoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Sherman Cymru yng Nghaerdydd, gyda deg perfformiad cyhoeddus mewn wyth niwrnod yn unig!
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Canrif / Century yn ganlyniad misoedd o waith ymchwil ac ysgrifennu gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames. Yr ail mewn cyfres o dri darn o waith, mae Canrif / Century yn tynnu ar etifeddiaeth hanesyddol diweddar Cymru - yn wahanol i gynhyrchiad hynod boblogaidd a llwyddiannus ThCIC y llynedd, Mythau Mawreddog y Mabinogi, oedd yn canolbwyntio ar ein gorffennol mytholegol. O olygfa agoriadol sy'n darlunio esblygiad teithiwr drwy amser sy'n gywerth â gwib-ganlyn - o fwnci i Ddyn ar amrantiad llygaid - mae cynhyrchiad eleni yn edrych ar rai o ddigwyddiadau tyngedfennol y ganrif ddiwethaf sydd wedi llunio a ffurfio'r byd, a'r Gymru, rydym ni bellach yn byw ynddynt.
Canrif / Century Drama emosiynol i fyny ac i lawr yw Canrif / Century sy'n cyfuno testun â cherddoriaeth, symudiad, ffotograffau archifau a darnau o ffilm. Mae aelodau o'r cast yn chwarae rhannau dirifedi sy'n amrywio o fwncïod i Maggie Thatcher (pedwar ohonynt!), ac yn cynnwys swffragetiaid, milwyr a streicwyr, a'r hyn oedd yn plagio rhieni yn y 1950au - pobl ifanc yn eu harddegau! Mae Cyfarwyddwyr Cerdd ThCIC, Dyfan Jones a Greg Palmer, wedi cyfansoddi cerddoriaeth a chaneuon yn arddull pob cyfnod, a chafodd y tîm cynllunio yr her o wisgo'r Cwmni i adlewyrchu'r newidiadau enfawr rhwng y 1900au a'r 1960au.
Heb ddatgelu gormod am y plot, mae'r gynulleidfa'n gweld hanes yn datblygu trwy fywydau Dai a Myfanwy - neu o leiaf bedair cenhedlaeth o'r enw Dai a Myfanwy. Mae eu storïau unigol yn llawn hiwmor, tynnu coes ac ysbryd hynod - yn aml iawn yn wyneb trallod torcalonnus.
Mae aelodau'r Theatr Ieuenctid rhwng 16 - 21 oed ac yn dod o bob rhan o Gymru. Cafodd dros 300 o bobl ifanc eu clyweld ar gyfer ThCIC 2009. Rheolir y Theatr Ieuenctid gan CBAC ar ran 22 awdurdod unedol Cymru.
Gorffennaf 2009
Y Goreuon
Mae'r goreuon o Gymru sy'n meddu ar dalent ddawnsio, cerdd a theatr yn ymgynnull mewn lleoliadau ar draws Cymru yr haf hwn wrth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ddechrau ar ei thymor haf o gyrsiau, cyngherddau a pherfformiadau.
Wedi'u dethol trwy glyweliad ac wedi'u tynnu o bob rhan o Gymru, mae dros 400 o berfformwyr mwyaf talentog Cymru yn treulio rhan fwyaf o'u gwyliau haf yn paratoi am gyfres ysbrydoledig o ddigwyddiadau dawns, cerdd a theatr ar gyfer cynulleidfaoedd trwy Gymru gyfan a thu hwnt.
Ymhlith yr uchafbwyntiau yr haf hwn mae cyngerdd cyntaf yn The Sage Gateshead gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru; cymaint ag wyth darn newydd wedi'u comisiynu a pherfformiadau cyntaf; a phartneriaeth newydd ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Bydd y tymor cyngherddau'n cychwyn yr wythnos hon yng Ngogledd Cymru gyda Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyflwyno rhaglen sy'n cynnwys gweithiau newydd gan Peter Graham, Rodney Newton a Dan Price, gan barhau â'r enw da sydd gan CCIC am gomisiynu a pherfformio gwaith newydd gan gyfansoddwyr Cymreig.
Ar yr un pryd, bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn agor ei gyfres o gyngherddau yng Nghonwy gydag ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy cyn teithio i Lanelwy a Wrecsam. Bydd rhaglen y Côr yn cynnwys gweithiau gan y cyfansoddwyr Cymreig uchel eu parch, Mervyn Burtch, Alun Hoddinott, William Mathias a Mansel Thomas.
Bydd Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ymddangos am y tro cyntaf yn y MusicFest yn Aberystwyth ar 29 Gorffennaf gyda pherfformiad cyntaf o waith newydd gan Ed Puddick - seren ar ei chynnydd ym myd jazz y DU - a'r cyfarwyddo cerddorol gan Percy Pursglove.
Mae Actifyddion Artistig Caerdydd, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, WNO Max a Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn uno â'i gilydd eleni i gynhyrchu summerdance 09 sy'n canolbwyntio ar ddawns ieuenctid a rhai o ddawnswyr ifanc mwyaf disglair Cymru. Eleni, mae DGIC yn croesawu Errol White fel ei Goreograffydd Gwadd. Mae Errol yn ddawnsiwr a choreograffydd o fri sydd wedi gweithio gyda rhai o gwmnïau dawns cyfoes mwyaf adnabyddus y DU, gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (Diversions gynt).
Owain Arwel Hughes CBE sy'n parhau i gydio yn yr awenau gyda'r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2009, gan ei llywio drwy gyngherddau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr - mae'n cynnwys cyngerdd cyntaf yn y Sage godidog yn Gateshead sy'n un o neuaddau cyngerdd mwyaf newydd a gorau y DU. Yn dilyn ymddangosiad llwyddiannus yng ngŵyl enwog y Tri Chôr yn 2006, mae'r Gerddorfa wedi derbyn ail wahoddiad i'r ŵyl - camp arbennig i gerddorfa ieuenctid! Ar yr un diwrnod, bydd y Gerddorfa'n teithio i Gaerdydd ar gyfer gyngerdd olaf ei thymor haf yn 2009 yn Neuadd Dewi Sant.
Bydd Tim Baker, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn gweithio gyda thrigain o aelodau'r Theatr Ieuenctid i gyflwyno drama newydd gan yr awdur gwobrwyol, Manon Eames. Mae Canrif / Century yn gomisiwn newydd y bu'n bosib ei gyflawni trwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n tynnu ar etifeddiaeth hanesyddol ddiweddar Cymru gan gludo actorion a chynulleidfaoedd ar daith ddyfeisgar, pendramwnwgl drwy rai o ddigwyddiadau tyngedfennol y ganrif ddiwethaf. Bydd y ddrama'n cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth cyn iddi fynd ar daith i Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Sherman Cymru, Caerdydd.
"Dathliad yw Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o berfformwyr ifanc gorau Cymru sy'n awyddus i rannu eu hegni, eu brwdfrydedd a'u sgiliau sylweddol gyda chymaint o bobl â phosib wrth iddynt Berfformio dros Gymru."
Pauline Crossley, Uwch Reolwr (Celfyddydau Ieuenctid) ar ran CCIC
Aelodau CGIC wrth eu bodd ar Lwyfan Cerddor Ifanc Texaco
Llongyfarchiadau i Steffan Morris a Steffan Ciccotti, aelodau presennol y Gerddorfa, yn ogystal â'r cyn-aelod Anne Denholm am ragori ar y llwyfan yn rownd derfynol y gystadleuaeth o fri, Cerddor Ifanc Cymru Texaco.
Enillydd y teitl oedd y sielydd Steffan Morris yn dilyn rownd derfynol hynod o agos oedd yn arddangos "safonau oedd yn agos iawn at broffesiynol" yn ôl y Western Mail gydag Anne Denholm (y Delyn) enillodd yr ail wobr a Steffan Ciccotti (offerynnau taro) a gymrodd y drydedd wobr yn agos iawn y tu ôl iddo. 12 mlwydd oed yn unig oedd y ddau gystadleuydd arall ar y llwyfan sef Ben Creighton Griffiths (y Delyn) a David Shaw (Ffidil) - ac rwy'n siŵr y bydd y ddau ohonyn nhw'n aelodau o CGIC yn y dyfodol!
Yn y llun o'r chwith i'r dde mae Steffan Ciccotti, Anne Denholm, Gethin Jones (cyflwynydd) a Steffan Morris.
Rwy'n siŵr y gwyddoch bod CGIC yn mynd ar daith yn fuan - felly dyna reswm da arall i fynd i'w gweld.
Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Bydd Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru'n nodi ei berfformiad cyntaf yn Musicfest Aberystwyth y mis yma gyda pherfformiad cyntaf Suite for Big Band gan Ed Puddick, un o sêr newydd y byd jazz yn y DU. Bydd JCIC yn perfformio rhaglen gymysg sy'n amrywio o'r band mawr clasurol i jazz cyfoes, i gyd o dan gyfarwyddyd Percy Pursglove.
MusicFest Aberystwyth, Y Neuadd Fawr, Prifysgol Aberystwyth
29 Gorffennaf 8.00pm
01970 623232
www.aberystwythartscentre.co.uk
Tocynnau: £12.50, Consesiynau: £9.50
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ymuno ag Actifyddion Artistig Caerdydd, National Dance Company Wales (formerly Diversions) a WNO Max i gyflwyno summerdance 09, noson o ddawns cyfoes dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Cyswllt Artistig Diversions, Roy Campbell-Moore yn y New Theatre, Caerdydd.
Mae Cynorthwy-ydd Gwadd DGIC, Errol White, wedi creu gwaith newydd sbon ar gyfer rhai o ddawnswyr ifanc, mwyaf talentog Cymru. Mae ei waith yn gyflym a bywiog, peidiwch â'i golli!
Mae summerdance 09 hefyd yn cynnwys gwaith newydd cyffrous a ddaw o repertoire Diversions ei hun, a ail-weithiwyd ar gyfer cwmni o 40 dawnsiwr anhygoel i gyfeiliant cerddoriaeth fyw sy'n eithriadol (trwy garedigrwydd cerddorion ifanc o WNO Max).
New Theatre, Caerdydd
8 Awst 7.30pm
029 2087 8889
www.newtheatrecardiff.co.uk
*Codir tâl trafod bychan ar unrhyw docynnau a godir ar lein
Tocynnau: £7, Consesiynau £5
Mehefin 2009
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Eleni bydd CCIC yn perfformio yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Cerddoriaeth Glasurol Conwy. Dan gyfarwyddyd David Lawrence bydd y Côr yn canu repertoire sy'n amrywio o gyfnod y Dadeni hyd heddiw ac o Estonia i UDA. Mae’n cynnwys repertoire Cymreig hefyd, gyda gweithiau gan Mervyn Burtch, Alun Hoddinott, William Mathias a Mansel Thomas.
Ym mis Medi bydd CCIC yn perfformio Messiah Handel gyda'r Northern Sinfonia yn y BBC Proms; bydd symudiadau dethol o'r Messiah hefyd yn cael eu perfformio yng nghyngherddau’r haf.
Gŵyl Cerddoriaeth Glasurol Conwy,
Eglwys y Santes Fair, Conwy
23 Gorffennaf 7.30pnm
Tocynnau wrth y drws
Eglwys Gadeiriol Llanelwy
24 Gorffennaf 7.30pm
03700 101051* neu wrth y drws
Tocynnau: £8.00, Consesiynau: £5.00
Mynediad am ddim i blant ysgol
Eglwys San Silyn, Wrecsam - St Giles’s Church, Wrexham
25 Gorffennaf 7.30pm
03700 101051* neu wrth y drws
Tocynnau: £8.00, Consesiynau: £5.00
Mynediad am ddim i blant ysgol
*Llinell Cynulleidfaoedd CGG y BBC - Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02.
Neuadd Albert, Llundain
Royal Albert Hall, London
6 Medi/September 6.30pm
0845 401 5040
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Eleni, bydd y band i fyny yn y gogledd ac yn cynnal cyngherddau yn Wrecsam, Llanelwy a Bangor.
Mae'r rhaglen eleni yn cynnwys tri gwaith newydd; On the Shoulders of Giants gan Peter Graham, gwaith a gomisiynwyd ar y cyd gan BPCIC a'r Band Cory, ynghyd â Concerto for Flugel Horn gan Rodney Newton a Moonbeams gan Dan Price, ill dau wedi'u comisiynu gan Gyfeillion BPCIC ac ill dau'n rhoi llwyfan i dalent yr unawdydd ar y corn flugel, Joanne Childs. Ymhlith y gweithiau eraill mae Actaeon Gareth Wood, Rococo Variations Edward Gregson a Turris Fortissima gan Stephen Ponsford.
Bydd y Band Pres yn ffarwelio â'i Gyfarwyddwr Cerdd, Dr Robert Childs, yn 2009 ac yn dathlu ei gysylltiad â BPCIC dros gyfnod o 10 mlynedd gyda pherfformiad yng Ngŵyl Abertawe ar 4ydd mis Hydref.
Neuadd William Aston, Wrecsam
22 Gorffennaf 7..30pm
03700 101051* neu wrth y drws
Eglwys Gadeiriol Llanelwy - welsh
23 Gorffennaf 7.30pm
03700 101051* neu wrth y drws
Neuadd Pritchard-Jones, Bangor
24 Gorffennaf 7.30pm
03700 101051* neu wrth y drws
Tocynnau: £8.00, Consesiynau: £5.00
Mynediad am ddim i blant ysgol
Ni chedwir seddau
*Llinell Cynulleidfaoedd CGG y BBC - Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02.
Perfformiwch dros Gymru in 2010
Mae ffurflenni cais ar gael erbyn hyn ar gyfer yr holl ensembles cerdd CCIC BPCIC, CCIC, CHCIC, JCIC, CGIC a CCGIC. Gallwch lwytho ffurflen i lawr trwy ddilyn y cysylltau uchod neu ffonio neu anfon e-bost i'r swyddfa a byddwn yn rhoi copi yn y post i chi. (02920 265060 | nyaw@nyaw.co.uk)
CGIC Haf 2009
Blaenwr newydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar gyfer yr Haf 2009 yw Elanor Gunn o Wynedd. Mae Elanor, sydd ar hyn o bryd yn astudio yn RSAMD, Glasgow, wedi bod yn aelod ymroddgar o'r Gerddorfa er 2006. Mae hi bob amser wedi bod yn gwbl broffesiynol ac wedi dangos yr aeddfedrwydd hwnnw sy'n angenrheidiol i fod yn aelod o CGIC a bydd yn enghraifft berffaith i aelodau ieuengach y Gerddorfa.
Mae CGIC '09 yn cynnwys 116 o gerddorion ifanc gorau Cymru a daw cynrychiolaeth dda o bob cwr o Gymru. 14 mlwydd oed yn unig fydd aelod ieuengaf y Gerddorfa yn ystod y cwrs; mae gennym 10 aelod sy'n gymwys i fod yn aelod am y tro olaf yn ogystal â 39 aelod newydd fydd yn cael eu profiad cyntaf gyda'r 'Nash'.
Ac am brofiad! Eleni bydd CGIC unwaith eto'n cael ei thiwtora gan rai o brif gerddorion proffesiynol y DU ac yn cael ei harwain gan Owain Arwel Hughes CBE ar daith gyngerdd fydd yn cynnwys perfformiad cyntaf yn neuadd gyngerdd nodedig y Sage yn Gateshead, ail-ymweld â Gŵyl y Tri Chôr yn Eglwys Gadeiriol Henffordd yn ogystal â chyngherddau yn Aberystwyth, Bangor, Birmingham a Chaerdydd.
ThCIC Haf 2009
Yn dilyn llwyddiant ysgubol cynhyrchiad ThCIC 2008, Mythau Mawreddog y Mabinogi, bydd dawn arbennig yr awdur Manon Eames i gyfuno'r epig a'r agos atoch i'w gweld unwaith eto yn ei drama newydd i ThCIC 2009. Dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig ThCIC, Tim Baker, mae Canrif / Century yn bortread o Gymru a thu hwnt yn ystod blynyddoedd cynhyrfus, dirdynnol a gorfoleddus yr 20fed Ganrif.
Bydd Canrif / Century yn rhyddhau cryn dalent chwedeg o aelodau ThCIC 2009 i gyfleu'r angerdd a'r egwyddorion a grëwyd gan frwydrau enbyd y 100 mlynedd diwethaf, wrth i unigolion a'r genedl ei hun ymdrechu am hunan benderfyniad ac i geisio cael mwy o lais a rheolaeth ar ei thynged.
Yn arwyddocaol, yn 2009 gwelwyd sefydlu Barack Obama yn Arlywydd du cyntaf UDA; mae hefyd yn nodi nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol allweddol (90 mlynedd ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio yn y DU, 60 mlynedd ers dechrau'r Ail Ryfel Byd, 50 mlynedd ers i'r dyn cyntaf gerdded ar y lleuad, 25 mlynedd ers cwymp Wal Berlin). Yn agosach at adref, mae 2009 yn coffáu nifer o ddigwyddiadau cofiadwy yng Nghymru, gan gynnwys Arwisgo'r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon, streic y glowyr yn 1984 a 10 mlynedd ers sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn erbyn y gefnlen hon o ddigwyddiadau lleol a byd-eang, mae ThCIC 2009 yn adrodd ei stori.
Mae Canrif / Century yn gynhyrchiad ar raddfa fawr sy'n cyfuno testun yn y ddwy iaith sydd gan Gymru, â symud a cherddoriaeth, sy'n siarad â phobl ifanc ac ar eu rhan, ac sy'n arwyddocaol iawn i Gymru yn yr 21ain Ganrif. Am fanylion llawn holl gyngherddau a pherfformiadau CCIC ewch i'n Tudalen Dyddiadur
Mawrth 2009
Côr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Bu Côr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, ddydd Sul 22 Chwefror o flaen cynulleidfa werthfawrogol. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd newydd, Ben Parry, cyflwynodd y Côr raglen gynhwysfawr oedd yn cynnwys Jubilate in C Britten, madrigalau gan Morley a Benett yn ogystal â chaneuon o'r sioeau megis You'll Never Walk Alone a The Circle of Life.
Daeth cyngerdd CHCIC ar ddiwedd wythnos ddwys o ymarfer a dreuliwyd yng Nghanolfan Ystangbwll ym mherffeddion Sir Benfro. Derbyniodd ddeugain aelod y côr, sydd rhwng 13-16 mlwydd oed, hyfforddiant gan dîm o gantorion proffesiynol ifanc, sydd i gyd yn gyn-aelodau Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Cynrychioli Cymru
Llongyfarchiadau i Tim Jones (Bariton) a Cai Isfryn (Cornet), ill dau'n aelodau o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a ddewiswyd yn ddiweddar i gynrychioli Cymru fel aelodau Band Pres Ieuenctid Ewrop yn Stavanger, Norwy o'r 26ain Ebrill - 4ydd Mai 2009.
Bydd Tim a Cai yn cymryd rhan mewn cyfres o ymarferion wythnos o hyd gyda rhai o chwaraewyr ifanc gorau Ewrop ac yn perfformio ar sawl achlysur yn ystod y Pencampwriaethau Band Pres Ewropeaidd.
Mae Tim wedi bod yn aelod o BPCIC er 2003, ac yn Brif Fariton y Band am y 3 blynedd ddiwethaf.
Mae Cai wedi bod yn aelod o BPCIC am saith mlynedd ac yn Brif Gornet am y 3 blynedd ddiwethaf. Hefyd mae'n gyn-aelod o Fand Chwyth Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru'n dymuno'r gorau i Tim a Cai ac yn gobeithio y byddant yn cael profiad gwych. Rydym yn edrych ymlaen at glywed popeth am y profiad!
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru'n lansio ei CD diweddaraf
Recordiwyd y CD yn Neuadd Dewi Sant yr haf diwethaf a bydd yn cael ei ryddhau'n swyddogol ar 19eg Chwefror 2009. Mae'n cynnwys Celtic Dances Mathias a London Symphony Vaughan Williams a'r CD hwn fydd 'Record y Dydd' ar Classic FM ar ddydd Gŵyl Dewi.
Pris CD yw £10 yr un, cysylltwch ag Alex James (029 2026 5197) i archebu un.
Ionawr 2009
Hoffai CCIC longyfarch Owain Arwel Hughes a Michael Sheen am gael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2009.
Derbyniodd Owain Arwel Hughes, Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, CBE am ei gyfraniad at gerddoriaeth ac elusennau.
Yn siarad â Wales Online, dywedodd Owain: "Rwy'n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd mawr hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at flwyddyn gyffrous o gerddori."
Derbyniodd cyn aelod Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Michael Sheen, OBE am ei wasanaeth i ddrama. Gwnaeth Michael, sydd wedi portreadu cymeriadau megis Tony Blair a David Frost, y sylw ei fod yn edrych ymlaen at gwrdd â'r Frenhines go iawn (sef cyfeiriad at ei ymddangosiad yn The Queen, gyferbyn â'r actores Helen Mirren oedd yn y brif ran).
Cryno ddisgiau newydd o Tŷ Cerdd!:
Goreuon y Band Pres, y Côr a'r Gerddorfa Chwyth ar CD.
Vienna Nights
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2008), Arweinydd Nigel Boddice, Unawdydd Christian Jones (trombôn bas)
Hoddinott, Vaughan Williams, Gareth Wood, Philip Wilby, Elgar Howarth, Philip Sparke
Tydi a Roddaist
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2008) Arweinydd - Ralph Allwood, Christopher Whitton, organ
J.S.Bach, Alun Hoddinott, Arwel Hughes, William Mathias, Robert Pearsall, Henry Purcell, Thomas Tallis, Mansel Thomas, Eric Whitacre, Ralph Vaughan Williams
Ar gael hefyd:
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2007
Arweinydd - Islwyn Evans
Mervyn Burtch, Gareth Glyn, Brian Hughes, Hector MacDonald, Gregory Rose, Grace Williams
Cloudburst
Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru (2007), Arweinydd Nigel Boddice, Unawdydd Simone Rebello
Cedric Thorpe Davie, John Mazwell Geddes, Gareth Wood, Eric Whitacre, Adam Gorb, Martin Ellerby, Leonard Berstein
Cryno ddisgiau £5.00 yr un o Tŷ Cerdd - Music Centre Wales, ffôn: 029 2063 5640
Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar daith!
Bydd Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio i Luxembourg yn ystod gwyliau'r Pasg (Ebrill 2009). Cyfarwyddwr y Gerddorfa fydd Marco Pütz, y cyfansoddwr/arweinydd o Luxembourg, gyda Philippe Schartz yn unawdydd. Bydd Philippe, sy'n dod yn wreiddiol o Luxembourg ac ar hyn o bryd yn Brif Utganwr gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn rhoi'r perfformiad cyntaf o gonsierto o waith y cyfansoddwr Cymreig, Gareth Glyn, darn a gomisiynwyd yn arbennig, yn neuadd gyngerdd newydd Trifolion, Echternach. Mae rhaglen CChGIC hefyd yn cynnwys darnau gan gyfansoddwyr eraill o Gymru, gan gynnwys Gareth Wood, a chyfansoddwyr o Luxembourg, yn eu plith Roland Wiltgen a Marco Pütz.
Hydref 2008
Perfformio
Mae argraffiad diweddaraf perfformio ar gael erbyn hyn ac mae'n dathlu'r holl lwyddiant a gafwyd yn 2008. Ynddo ceir erthygl ar enillwyr Last Choir Standing, Only Men Aloud!, ynghyd â chyfweliadau gyda Ruth Jones (sy'n enwog am Gavin and Stacey ac yn gyn-aelod o ThCIC) a Tim Baker (Cyfarwyddwr Artistig presennol ThCIC). Os ydych ar gronfa ddata CCIC eisoes, gallwch edrych ymlaen at dderbyn copi trwy'r post cyn y Nadolig; os ddim, gallwch lwytho copi i lawr o'r dudalen perfformio neu, os yw'n well gennych gael copi caled, anfonwch eich manylion cysylltu atom ar gyfer ein cronfa ddata ac anfonwn gopi atoch yn y post.
Mwynhewch y darllen a Nadolig Llawer gan bawb yn CCIC!
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymuno ar gyfer Gwledd Eidalaidd!
Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Genedlaethol y BBC ar nos Lun 20 Hydref 2008, 7.30pm yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar gyfer perfformiad gwefreiddiol o Agorawd Roman Carnival gan Berlioz - enghraifft wych o allu cyfansoddwr i drawsnewid cerddoriaeth leisiol i waith cerddorfaol eithriadol.
Yn ogystal, mi fydd y gerddorfa'n perfformio Pinwydd Rhufain sydd erbyn hyn yn un o weithiau mwyaf poblogaidd Respighi. Dyma ddathliad enfawr o hen ogoniant. Yn wledd i'r glust, mae'r gwaith mewn pedwar symudiad, pob un yn portreadu gwahanol olygfa o ddinas Rhufain yn yr Eidal.
Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi y bydd Paul Daniel yn arwain y gerddorfa a Cherddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2008, Peter Moore yn perfformio Concerto Trombôn gan Tomasi. Ond yn 12 mlwydd oed, ef yw enillydd ieuengaf erioed y gystadleuaeth o fri. Mi fydd y gyngerdd hefyd yn llwyfan i waith newydd sbon, wedi'i gyfansoddi'n arbennig ar gyfer y noson gan Ben Foster, a gwaith gwych Tchaikovsky, Capriccio Italien.
Dyma'r wythfed flwyddyn i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC weithio mewn partneriaeth â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd bob blwyddyn yn ddyddiad pwysig yn ein dyddiadur, ac sy'n cael ei fwynhau gan gerddorion ifanc CGIC a'u cymheiriaid proffesiynol.
Peidiwch â cholli'r cyfle i weld y ddwy gerddorfa nodedig hyn. Pris y tocynnau yw £8 (££4 consesiwn) gyda thocynnau teulu yn cael eu cynnig am £16.50 ac £11. Dosberthir y tocynnau ar sail y cyntaf i'r felin a gellir eu cadw trwy ffonio Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy'n rhad ac am ddim, ar 0800 052 1812.
Theatrau llawn, cymeradwyaeth â phawb ar eu traed ac adolygiadau arbennig
Roedd CCIC yn llawn bwrlwm yr haf hwn gyda 443 o berfformwyr a thros 7,000 o bobl yn heidio i fwynhau dim llai na 17 o gyngherddau a chynyrchiadau cyhoeddus.
Gyda theatrau llawn, cymeradwyaeth â phawb ar eu traed ac adolygiadau arbennig, rydym yn hynod o falch o lwyddiant ein haelodau; dyma wobr wych am eu holl waith caled ac ymrwymiad gydol y flwyddyn.
Mae blwyddyn nesaf yn argoeli i fod yr un mor gyffrous gyda'r Gerddorfa (CGIC) wedi'i gwahodd i Ŵyl Gerddoriaeth Rhyngwladol Spilberk yn Brno, Gweriniaeth Tsiec a'r Gerddorfa Chwyth (CChGIC) yn mynd ar daith i Lwcsembwrg.
Mae clyweliadau 2009 eisoes ar waith ar gyfer y grwpiau cerdd, ac mae ffurflenni cais ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y Theatr (ThCIC) a Dawns (DGIC). Gellir eu llwytho i lawr trwy ddilyn y cysylltau uchod neu drwy ffonio Gillian Wells ar 02920 265006 am gopi caled. 1af Rhagfyr 2008 yw'r dyddiad cau.
Hoffem hefyd estyn llongyfarchiadau gwresog i Tim Rhys-Evans ac Only Men Aloud a enillodd gystadleuaeth Last Choir Standing y BBC. Rydym yn hynod o falch oherwydd bod cynifer o'r Côr yn rhan o CCIC ar hyn o bryd neu wedi bod ynghlwm o'r blaen (naill ai fel aelodau, cyn-aelodau, staff lles, tiwtoriaid neu arweinyddion). Pob dymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol!
Medi 2008
Myth, Lledrith a Llanast - Perfformwyr ifanc gorau Cymru yn mynd ar daith
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dechrau ei thaith haf 2008 yn Aberystwyth cyn symud ymlaen at leoliadau yng Ngogledd a De Cymru.
Wedi ychydig dros dair wythnos o ymarfer, mae trigain aelod y Cwmni yn barod i ryddhau eu dehongliad newydd o chwedlau hynaf Cymru - Y Mabinogi - o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Artistig, Tim Baker.
Mae Mythau Mawreddog y Mabinogi / Magnificent Myths of the Mabinogi yn cyfuno cerddoriaeth, symud, mygydau a phypedau gydag adrodd stori, trwy destun a addaswyd ar gyfer y llwyfan gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames. Y mae wedi profi sgiliau'r tîm dylunio a'r actorion oherwydd cynhyrchwyd poeth tra ar y cwrs - o dros 100 o wisgoedd a mygydau a gafodd eu cynllunio a'u gwneud yn arbennig, at sgôr gerddoriaeth a gyfansoddwyd o'r newydd gan Dyfan Jones trwy ddefnyddio talentau cerddorol 45 perfformiwr.
Heb sôn gormod am y plot, caiff y gynulleidfa ei chludo i amser a lle arall, lle mae cewri a brenhinoedd yn brwydro yn erbyn ei gilydd, lle mae dewiniaid a gŵyr doeth yn ddrygionus, lle mae tywysogion a morwynion yn cwympo mewn cariad, a lle mae pont, baddon sy'n llawn dŵr a bwch gafr yn profi i fod yn ormod i un o'n harwyr amharod!
Mae'r Pennaeth Dylunio, Guto Humphreys, a'i dîm wedi creu byd llwm o lechen a gwenithfaen y mae'r chwedlau epig a dramatig hyn yn cael eu hadrodd ynddo. Mae Mythau Mawreddog y Mabinogi yn addo bod yn antur dywyll a fydd yn gwefreiddio, yn cyffroi ac yn cyfareddu.
Mae aelodau'r Theatr Cenedlaethol rhwng 16 - 21 oed ac yn dod o bob rhan o Gymru. Cafodd dros 300 o bobl ifanc eu clyweld ar gyfer ThCIC 2008.
ThCIC 2008 - AMSERLEN
Dydd Gwener 5ed Medi 1.00pm a 7.30pm
Perfformiad ThCIC - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 01970 623232
Dydd Sadwrn 6ed Medi 2.30pm a 7.30pm
Perfformiad ThCIC - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 01970 623232
Dydd Mawrth 9fed Medi 7.30pm
Perfformiad ThCIC - Clwyd Theatr Cymru 0845 330 3565
Dydd Mercher 10fed Medi 1.00pm
Perfformiad ThCIC - Clwyd Theatr Cymru 0845 330 3565
Dydd Gwener 12fed Medi 1.00pm a 7.30pm
Perfformiad ThCIC - Sherman, Caerdydd 029 2064 6900
Dydd Sadwrn 13eg Medi 2.30pm a 7.30pm
Perfformiad ThCIC - Sherman, Caerdydd 029 2064 6900
Tocynnau £10, consesiynau £6
Cysylltwch â: Pauline Crossley - Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, 029 2026 5060 / 07778 653682 pauline.crossley@nyaw.co.uk
NODIADAU I OLYGYDDION:
Mae lluniau ar gael a gellir trefnu cyfleoedd i dynnu lluniau; bydd lluniau swyddogol o'r cynhyrchiad ar gael o 5 Medi.
Cefnogir ThCIC gan ddau awdurdod unedol ar hugain Cymru.
Mae ThCIC yn rhan o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC)
Mae CCIC yn cynnwys:
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae CBAC yn rheoli ac yn gweinyddu:
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae FfCAC / Tŷ Cerdd yn rheoli ac yn gweinyddu:
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae CCIC hefyd yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Ymhlith cyn-aelodau ThCIC sydd ar hyn o bryd yn mwynhau llwyddiant poblogaidd a beirniadol mae Matthew Rhys, Michael Sheen, Ruth Jones, Rob Brydon, Eve Miles a Kimberley Nixon.
Teithio gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Bydd dros 300 o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru'n mynd ar daith dros yr haf eleni gan gynnal cyfres gyffrous o gyngherddau a pherfformiadau mewn lleoliadau trwy Gymru a thu hwnt.
Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn teithio dros 2,000 o filltiroedd rhwng Gorffennaf a Medi, gan gynnal digwyddiadau yng Ngogledd, De, Canolbarth a Gorllewin Cymru - heb sôn am Birmingham, Caergaint a Llundain! Gweler Y Dyddiadur am fanylion.
Actor o Hollywood, hen chwedl ar newydd wedd, teyrngedau i gerddor hynod a dau wahoddiad arbennig iawn
Ymhlith yr uchafbwyntiau eleni mae ymddangosiad arbennig iawn gan Matthew Rhys gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru; ail-weithio hanesion hynaf Cymru gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames, ar gyfer Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; gwahoddiad i Eglwys Gadeiriol Caergaint i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gyda Phres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid yn cyfeilio; dathlu bywyd a gwaith Alun Hoddinott a'i gyfraniad at gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru; a hyn i gyd yn dilyn yn fuan ar ôl perfformiad gan Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn yr Wŷl Ddawns Genedlaethol yn Llundain.
Cychwynwyd y tymor cyngherddau gan Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yr oedd ei raglen yn cynnwys perfformiad cyntaf gwaith newydd gan Gareth Wood, Consierto i'r Trombôn Bas, gan barhau â'r enw da sydd gan CCIC am gomisiynu a pherfformio gwaith newydd gan gyfansoddwyr Cymreig.
Yn fuan ar ôl cyngerdd agoriadol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Great Malvern, cynhaliwyd perfformiad yn y MusicFest yn Aberystwyth ar 29 Gorffennaf yn Eglwys Llanbadarn, Aberystwyth. Roedd rhaglen y Côr yn cynnwys ac yn dathlu gwaith gan Alun Hoddinott a Ralph Vaughan Williams.
Bydd gweithiau Hoddinott a Vaughan Williams hefyd yn rhan o raglen Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod yr haf fel y bydd gwaith y cyfansoddwr Cymreig William Mathias. Un o'r uchafbwyntiau eraill, mae'n siŵr, fydd ymddangosiad yr actor o Hollywood, Matthew Rhys. Yn gyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Matthew fydd yr adroddwr ar y cyfieithiad Cymraeg cyntaf erioed o Young Person's Guide to the Orchestra gan Britten yn Neuadd Dewi Sant ar 7 Awst fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd CCIC, Owain Arwel Hughes OBE.
Dan gyfarwyddyd ei Gyfarwyddwr Artistig newydd, Tim Baker, a enillodd Dyfarniad Creadigol Cymru, bydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd i'r afael â thasg eithaf swmpus dros yr haf gyda'i ail-ddehongliad o'r Mabinogi gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames. Bydd Mythau Mawreddog y Mabinogi / Magnificent Myths of the Mabinogi yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 5 Medi cyn teithio i Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a'r Sherman, Caerdydd.
Derbyniodd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru wahoddiad arbennig gan Youth Dance England i fod yn rhan o'r perfformiad i gloi'r Wŷl Ddawns Ieuenctid Genedlaethol yr haf hwn yn Theatr y 'Peacock' yn Llundain. Gan berfformio darn o Just Me, a goreograffwyd gan Henri Oguike, derbyniodd y dawnswyr ifanc gymeradwyaeth wresog ac roedd y gynulleidfa ar ei thraed - a chyflwynwyd y gorau o Gymru i gynulleidfa frwdfrydig, oedd wrth eu bodd â dawns.
Matthew Rhys i Berfformio Gyda'r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid
Bydd yr actor Matthew Rhys, seren ar lwyfan, sgrin a theledu, yn ymddangos ar lwyfan gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol yr haf hwn.
Bydd Matthew, sy'n gyn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn darparu'r adroddiad cyntaf erioed yn y Gymraeg ar gyfer Young Person's Guide to the Orchestra gan Britten, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd CGIC, Owain Arwel Hughes OBE.
"Rydym wrth ein bodd bod Matthew yn gallu ymuno â ni ar gyfer y perfformiad arbennig iawn hwn. Fel cyn aelod o'r Theatr Ieuenctid, nid yw gwaith Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ddieithr iddo. Mae'n ffantastig o ran CGIC a'r Eisteddfod ei fod yn gallu neilltuo amser yn ei amserlen brysur iawn i'n cefnogi ni yn y ffordd hon." Matthew Jones, Rheolwr Cerddoriaeth Ieuenctid, CGIC
Yn ystod ei amser gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, perfformiodd Matthew yn The Caucasion Chalk Circle gan Bertolt Brecht ac yn Y Pry Gwaed (Mayakovsky).
Ar hyn o bryd, mae modd gweld Matthew yn chwarae rhan Dylan Thomas yn y ffilm a ryddhawyd yn ddiweddar, The Edge of Love, ochr yn ochr â Keira Knightley a Sienna Miller. Mae hefyd yn ymddangos yng nghyfres boblogaidd yr UD, Brothers and Sisters. Mae ei ganmoliaethau eraill ar y sgrin yn cynnwys Very Annie Mary (gydag Ioan Gruffydd), Titus (gydag Anthony Hopkins) a House of America gan Ed Thomas. Yr oedd hefyd wedi cyd-serennu gyda Kathleen Turner yn yr addasiad ar gyfer y llwyfan o The Graduate yn y West End yn Llundain a enillodd ganmoliaeth feirniadol.
Bydd y gyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar ddydd Iau, 7 Awst (7.30pm) yn cynnwys dau ddarn arall - Celtic Dances gan Mathias a Symphony Rhif 2. gan Vaughan Williams. Mae tocynnau nawr ar gael o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 2087 8444 neu. www.stdavidshallcardiff.co.uk (£10 ar gyfer oedolion, £6 ar gyfer consesiynau).
Mae Matthew yn gwirfoddoli ei amser a'i wasanaeth i gefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Matthew Jones yn swyddfa CGIC ar 029 2026 5047
Perfformiwch dros Gymru in 2009
Mae ffurflenni cais ar gael erbyn hyn ar gyfer yr holl ensembles cerdd CCIC (BPCIC, CCIC, CHCIC, JCIC, CGIC a CCGIC). Gallwch lwytho ffurflen i lawr trwy ddilyn y cysylltau uchod neu ffonio neu anfon e-bost i'r swyddfa a byddwn yn rhoi copi yn y post i chi. (02920 265060 | nyaw@nyaw.co.uk)
CGIC Haf 2008
Yr haf hwn, bydd 114 cerddor ifanc talentog o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn difyrru cynulleidfaoedd gyda pherfformiadau yn Eglwysi Cadeiriol Tyddewi a Llanelwy, Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd (fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol) a pherfformiad cyntaf yn Neuadd y Dref yn Birmingham sydd newydd gael ei hadnewyddu. Bydd y Gerddorfa unwaith eto'n chwarae o dan arweiniad Owain Arwel Hughes OBE.
Mae rhaglen cwbl Brydeinig eleni'n cynnwys Symffoni Llundain, Ralph Vaughan Williams, i goffáu 50 mlynedd ers ei farwolaeth, Young Person's Guide to the Orchestra Britten a Celtic Dances bywiog William Mathias, cyfansoddiad y dylanwadwyd arno gan draddodiadau ac etifeddiaeth y cenhedloedd Celtaidd.
ThCIC Haf 2008
Ail-ddehongliad i'r llwyfan gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames.
Drama epig, arsylwi cain, cerddoriaeth fyw a symud, bydd y cyfan yn cyfuno wrth i drigain o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru lwyfannu rhai o hanesion hynaf ein gwlad mewn cynhyrchiad grymus dwyieithog newydd o dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig ThCIC, Tim Baker.
Mae'r Mabinogi yn cyffwrdd â phob emosiwn dynol - hiwmor a dwyster yn gwrthdaro â thrasiedi ac anobaith wrth i rymoedd Annwfn gynllwynio i herio cyfeillgarwch a theyrngarwch daearol.
Yn y cynhyrchiad Mythau Mawreddog y Mabinogi, cawn ein cyflwyno i dywysogion a marchogion, morwynion a breninesau, gŵyr doeth a dewiniaid - pob un yn ceisio goresgyn cryfderau a grymoedd hynod y byd Celtaidd - mae'n antur dywyll fydd yn gwefreiddio, yn cyffroi ac yn cyfareddu.
Am fanylion llawn holl gyngherddau a pherfformiadau CCIC ewch i'n Tudalen Dyddiadur
Mehefin 2008
Dawnswyr ifanc ar y ffordd i Lundain
Derbyniodd dawnswyr ifanc Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) wahoddiad arbennig iawn i berfformio yn y Peacock Theatre yn London fel rhan o'r ŵyl Ddawns Ieuenctid Genedlaethol.
Caiff yr ŵyl Ddawns Ieuenctid Genedlaethol ei chyflwyno a'i chynhyrchu gan Youth Dance England, yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer cysylltu pobl ifanc â dawns. Mae'r ŵyl eleni'n argoeli i fod yr ŵyl fwyaf sydd wedi bod, gyda dros 500 o bobl ifanc yn dawnsio mewn rhai o brif leoliadau Llundain. Bydd DGIC yn perfformio fel gwestai arbennig yn nigwyddiad cau'r ŵyl ar brynhawn dydd Sul 13 Gorffennaf 2008
Bydd yr ŵyl yn rhoi llwyfan i gwmnïau o bob lliw a llun gan amrywio o grwpiau dawns stryd gwrywod yn unig i grwpiau dawns gyfoes a grwpiau theatr corfforol ar raddfa fawr.
Bydd DGIC yn perfformio darn o Just Me, a goreograffwyd yr haf diwethaf gan Gyfarwyddwr Artistig DGIC, Henri Oguike.
"Mae hwn yn gyfle gwych i'n dawnswyr ifanc. Roeddent wedi gweithio'n galed dros ben i greu ac ymarfer y gwaith newydd hwn gyda Henri, a derbyniodd ymateb brwdfrydig pan gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn y Sherman yng Nghaerdydd yr haf diwethaf. Gwelwyd y gwaith gan gynrychiolwyr Youth Dance England ac ar ôl hynny derbyniwyd y gwahoddiad i DGIC fod yn westai yn yr ŵyl, ac rydym i gyd wedi cyffroi o feddwl am rannu ein cariad at ddawns a dawnsio gyda chynulleidfa fwy." Pauline Crossley, Uwch Reolwr (Celfyddydau Ieuenctid)
DGIC yn y Peacock Theatre, Llundain WC2
Dydd Sul 13 Gorffennaf 2008 (5pm); Tocynnau £5
Swyddfa docynnau 0844 412 4322 / www.sadlerswells.com
Nodiadau
1. Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn ganolbwynt cenedlaethol i ddawns ieuenctid yng Nghymru ac mae'n agored i bobl ifanc, rhwng 14 - 21 mlwydd oed, sydd wrth eu bodd â dawns a dawnsio.
Bydd DGIC yn gweithio'n bennaf â ffurfiau dawns creadigol, cyfoes ond anogir ceisiadau gan bobl ifanc sydd â phrofiad o amrywiaeth eang o arddulliau dawns, gan gynnwys dawns gyfoes, bale, jazz, hip-hop/dawns stryd, modern, ayb cyn belled â bod y rhai sy'n cymryd rhan yn barod i drosglwyddo eu sgiliau i wahanol ffordd o weithio - neu o leiaf i roi cynnig arni!
Cyn hir bydd DGIC yn recriwtio ar gyfer 2009. I dderbyn rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â nydw@nyaw.co.uk; 029 2026 5006; www.nyaw.co.uk
2. Youth Dance England a'r ŵyl Ddawns Ieuenctid Genedlaethol
Mwy o fanylion am yr ŵyl: www.yde.org.uk
Llun: Dawnswyr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (credyd: John Campbell)
Ebrill 2008
Aelodau CCIC yn creu campwaith
Llongyfarchiadau i Meilyr Hughes (Canwr Corn, Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru) ar ennill gwobr Richard Fice, sy'n wobr o fri. Cyflwynir y wobr hon yn flynyddol gan Wasanaeth Cerdd Caerdydd a Bro Morgannwg er cof am Richard Fice, a oedd yn fôr-filwr a laddwyd gan fomio'r IRA yn Deal. Roedd Richard yn gyn-aelod o Fand Pres y Sir ac o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Aelodau CCIC yn creu campwaith
Daeth aelodau CGIC a ThCIC at ei gilydd yn ddiweddar i gymryd rhan mewn gweithdy dylunio creadigol. Daeth y syniad am y diwrnod gan ddylunwyr CCIC, elfen, sy'n bwriadu cynnwys elfennau o ddyluniadau a syniadau ein haelodau fel rhan o'r cyhoeddusrwydd ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau'r haf eleni.
Ym mis Awst, bydd y Gerddorfa'n perfformio Symffoni Rhif 2 (Symffoni Llundain) Ralph Vaughan Williams, ynghyd â Young Person's Guide to the Orchestra Britten a Celtic Dances Mathias. Ym mis Medi, bydd y Theatr Ieuenctid yn cyflwyno gwaith newydd wedi'i addasu o hanesion Y Mabinogi. Yn ystod y gweithdy dylunio, gofynnwyd i'r myfyrwyr roi mynegiant i'w dehongliadau eu hunain wedi'u hysbrydoli gan y darnau hyn.
I ddechrau gweithiodd y myfyrwyr ar eu pennau eu hunain, gan greu campweithiau unigol, ond cyn hir roeddent wedi dechrau gweithio gyda'i gilydd ar waith celf oedd hyd yn oed yn fwy syfrdanol.
Cadwch lygad allan am eu dyluniadau yn argraffiad nesaf perfformio ac ar y wefan hon; pwy a Ŵyr efallai bod olynydd i Picasso yn ein plith!
Chwifio'r faner dros Gymru
Llongyfarchiadau i Chris Evans (Trombon Bas), Emma Harvard (Corn Tenor) a Bethan Evans (Bas Eeb), aelodau cyfredol Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sydd wedi'u dewis yn ddiweddar i gynrychioli Cymru fel rhan o Fand Pres Ieuenctid Ewrop a gynhelir yn Stavanger, Norwy rhwng 26ain Ebrill - 4ydd Mai 2008.
Bydd y tri myfyriwr yn cymryd rhan mewn cyfres o ymarferion wythnos o hyd ochr yn ochr â rhai o'r chwaraewyr ifanc gorau o Ewrop gyfan dan Fatwn Reid Gilje, un o brif arweinyddion a hyfforddwyr Norwy. Byddant hefyd yn rhannu llwyfan â dau unawdydd rhyngwladol enwog, Tormod Flaten (Ewffoniwm) prif chwaraewr ewffoniwm gyda'r Eikanger Bjørsvik, a Roger Webster (Cornet) sydd ar hyn o bryd yn brif ganwr cornet gyda'r Grimethorpe Colliery Band.
Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ddymuno'r gorau i Chris, Emma a Bethan am brofiad gwych ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed amdano!
Ydych chi'n gallu trin geiriau?
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bwriadu cychwyn menter newydd ar gyfer ysgrifenwyr ifanc.
Yr ydym yn galw ar bobl ifanc rhwng 16 - 23 oed i ymuno â ni, gweithio gyda ni, gwella eu sgiliau a bod yn rhan o greu cynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2010.
Nid oes angen unrhyw brofiad o ysgrifennu ar gyfer y theatr arnoch ond mae angen brwdfrydedd am syniadau cyffrous, materion cyfoes a sefyllfaoedd dramatig. Os fyddwch chi'n ymuno â ni, bydd cyfle i chi weithio gyda rhai o dalentau ysgrifennu mwyaf profiadol, proffesiynol a chyfarwyddo yng Nghymru; fe fyddwch chi'n cymryd rhan mewn gweithdai ble fydd eich gwaith yn cael ei herio, ei ymestyn a'i archwilio gan actorion, o fewn sefyllfaoedd darllen a hefyd ymarferion, ac yn cyfrannu at ddatblygu drama newydd sbon ar gyfer ThCIC 2010.
Dyma gyfle go iawn i bobl glywed eich llais a gweld eich gwaith yn dod yn fyw, a chael bod yn rhan o gyfle unigryw sy'n pontio dros tair blynedd ac yn diweddu â pherfformiad cyntaf o'r cynhyrchiad newydd a fydd yn mynd ar daith i leoliadau yng Nghymru a thu hwnt o bosib!
Diddordeb?
Cysylltwch â: Gillian Wells, Gweinyddwraig ThCIC, nytw@nyaw.co.uk a gofynnwch am wybodaeth bellach am Raglen Ysgrifennu Pobl Ifanc ThCIC.
Mawrth 2008
CCIC yn ffarwelio ag un o gyfansoddwyr mwyaf rhagorol Cymru
Gyda thristwch mawr yr ydym yn ffarwelio â ffrind annwyl, Alun Hoddinott, un o sylfaenwyr Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Ef hefyd oedd y cyn aelod cyntaf i arwain y CGIC mewn gwaith a oedd yn eiddo iddo ef ei hun. Comisiynwyd Alun i gyfansoddi sawl darn ar gyfer BPCIC, CCIC a CGIC gan gynnwys ei ail gyfres o Welsh Dances a ysgrifennodd ar gyfer CGIC yn 1969 i'w berfformio i Dywysog Cymru yn ystod ei flwyddyn arwisgo.
"Mae cyfraniad Alun i gerddoriaeth dros y blynyddoedd wedi bod yn enfawr, bydd llawer o'i gyfansoddiadau'n sefyll treigl amser gyda'u lliwiau cyfoethog a'u natur ergydiol. Mae Cymru wedi colli cyfansoddwr a oedd yn uchel ei barch yn rhyngwladol - mawr fydd y golled" - Matthew Jones, Rheolwr CGIC
Gwelwch sut mae'r gwynt yn chwythu
Mae CChGIC yn perfformio dwy gyngerdd o glasuron modern sy'n cynnwys Saxophone Concerto gan Michael Ball gyda Lara James fel yr unawdydd. Uchafbwynt arall y rhaglen fydd perfformiad cyntaf o Farewell, gwaith newydd gan Adam Gorb.
Gallwch ddal y Gerddorfa Chwyth ar ddydd Sadwrn 5ed Ebrill am 7.30pm yn Ysgol Mynwy i Ferched neu ar ddydd Sul 6ed Ebrill am 3.00pm yn Neuadd Gyngerdd y Brifysgol, Caerdydd. Mae tocynnau ar gael gan Tŷ Cerdd (02920 635649/50) neu wrth y drws. Tocynnau £7, (£5 cons) neu £3.50 ar gyfer plant a myfyrwyr.
Chwefror 2008
Cyngherddau i godi'ch archwaeth
Mae CHCIC yn cwrdd am ei gwrs preswyl blynyddol yn ystod hanner tymor mis Chwefror yn Ysgol Howell, Dinbych. Bydd yn perfformio rhaglen sy'n cynnwys Adiemus gan Karl Jenkins ac A Sprig of Thyme gan John Rutter yn Eglwys San Silyn, Wrecsam am 3.00pm ar ddydd Sadwrn 17eg Chwefror. Mae tocynnau ar gael wrth Tŷ Cerdd (02920 635650), o'r siop yn San Silyn neu wrth y drws. Tocynnau £5, (£3.50 cons) neu £15 am docyn teulu.
Bydd JCIC o dan ei Gyfarwyddwr Cerdd newydd, Percy Pursglove, yn ymddangos yn Clwyd Theatr Cymru am 7.30pm ar ddydd Sadwrn 16eg Chwefror. Mae tocynnau ar gael wrth y drws neu wrth Pedr Roberts ar 01352 755958. Tocynnau £7, (£5 cons).
Ym mis Ebrill bydd CChGIC yn perfformio dwy gyngerdd o glasuron modern sy'n cynnwys Saxophone Concerto gan Michael Ball â Lara James fel unawdydd. Uchafbwynt y rhaglen fydd perfformiad cyntaf o Farewell, gwaith newydd gan Adam Gorb.
Bydd rhaglen BPCIC o gyngherddau ym mis Gorffennaf yn cynnwys perfformiad cyntaf o Goncerto ar gyfer Trombôn Bas a Band Pres gan Gareth Wood. Yr unawdydd bydd Christian Jones, prif bas-drombonydd Cerddorfa Philharmonia. Bydd y BPCIC yn cael ei arwain eleni gan Nigel Boddice a wnaeth recordio CD llwyddiannus gyda CChGIC yn 2007.
Bydd CGIC yn cyflwyno cyngherddau yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi (Penfro), Neuadd y Dref yn Birmingham sydd ar ei newydd wedd a Llanelwy. Bydd hefyd yn perfformio cyngerdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac yn recordio CD ar gyfer yr hyn sy'n addo i fod yn haf prysur ond eto'n gyffrous. Bydd repertoire'r haf yr un mor gyffrous gyda Celtic Dances gan Mathias, Young Person's Guide to the Orchestra gan Britten a Symffoni Rhif 2 gan Vaughan Williams mewn rhaglen sy'n gwbwl Brydeinig.
Gweler tudalen ein dyddiadur ar gyfer ein holl Gyngherddau Gwanwyn a Haf.
Ydych chi'n gallu trin geiriau?
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bwriadu cychwyn menter newydd ar gyfer ysgrifenwyr ifanc.
Yr ydym yn galw ar bobl ifanc rhwng 16 - 23 oed i ymuno â ni, gweithio gyda ni, gwella eu sgiliau a bod yn rhan o greu cynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2010.
Nid oes angen unrhyw brofiad o ysgrifennu ar gyfer y theatr arnoch ond mae angen brwdfrydedd am syniadau cyffrous, materion cyfoes a sefyllfaoedd dramatig. Os fyddwch chi'n ymuno â ni, bydd cyfle i chi weithio gyda rhai o dalentau ysgrifennu mwyaf profiadol, proffesiynol a chyfarwyddo yng Nghymru; fe fyddwch chi'n cymryd rhan mewn gweithdai ble fydd eich gwaith yn cael ei herio, ei ymestyn a'i archwilio gan actorion, o fewn sefyllfaoedd darllen a hefyd ymarferion, ac yn cyfrannu at ddatblygu drama newydd sbon ar gyfer ThCIC 2010.
Dyma gyfle go iawn i bobl glywed eich llais a gweld eich gwaith yn dod yn fyw, a chael bod yn rhan o gyfle unigryw sy'n pontio dros tair blynedd ac yn diweddu â pherfformiad cyntaf o'r cynhyrchiad newydd a fydd yn mynd ar daith i leoliadau yng Nghymru a thu hwnt o bosib!
Diddordeb?
Cysylltwch â: Gillian Wells, Gweinyddwraig ThCIC, nytw@nyaw.co.uk a gofynnwch am wybodaeth bellach am Raglen Ysgrifennu Pobl Ifanc ThCIC.
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid yn penodi Cyfarwyddwr Artistig newydd ar gyfer 2008
Penodwyd y Cyfarwyddwr gwobrwyol, Tim Baker, yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, 2008
Mae cymwysterau Tim i arwain Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) o'r radd flaenaf ac mae'n awyddus i ychwanegu at enw da'r Theatr am greu theatr dwyieithog ar raddfa fawr fydd yn gallu cyfareddu, pryfocio, cyffroi, herio ac ysbrydoli.
Yn siarad am ei benodiad, dywed Tim "...Dyma gyfle prin a chyffrous i barhau â gwaith arloesol Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac adeiladu arno, ac er mwyn dwyn y blynyddoedd maith yr wyf wedi'u treulio yn creu theatr ar gyfer a chyda pobl ifanc at bersbectif cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at yr her o greu ethos cydweithrediadol, ynghyd ag awydd am y safonau uchaf mewn theatr arloesol a fydd yn sail ar gyfer dyfodol ThCIC..."
Dywedodd Pauline Crossley, Uwch Reolwr (Celfyddydau Ieuenctid) yn CBAC, yn siarad ar ran ThCIC, "Cafwyd diddordeb anhygoel yn swydd Cyfarwyddwr Artistig ThCIC, sy'n adlewyrchiad cadarnhaol o safle bresennol y Theatr Ieuenctid yng Nghymru a thu hwnt. Teimlwyd y byddai Tim Baker yn dod â sgiliau a phriodoleddau lu i ThCIC - nid yn unig yn artistig ac yn addysgol, ond hefyd o ran arweinyddiaeth gadarnhaol, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd wleidyddol ac ariannol y gweithredir ynddynt. Rydym yn arbennig o falch bod Tim yn ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at ddechrau ar gyfnod newydd o uchelgais a thwf i'r Theatr Ieuenctid"
Bydd Tim Baker yn cychwyn ar ei ddyletswyddau gyda ThCIC yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyda chlyweliadau ar gyfer ThCIC 2008; fe fydd yn cyfarwyddo'r cynhyrchiad mawr gyda'r Theatr Ieuenctid yr haf nesaf, ac fe fydd yn teithio i theatrau yng Nghymru ym mis Medi 2008.
Tim Baker
Yn un o gyfarwyddwr mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol Cymru, mae Tim Baker yn Gyfarwyddwr Cysylltiol gyda Clwyd Theatr Cymru (CTC). Mae Tim wedi cyfarwyddo dros 30 cynhyrchiad ar gyfer Clwyd Theatr Cymru lle y mae wedi cyfrannu at enw da CTC o gynhyrchu theatr hygyrch sy'n fyd enwog.
Gyda chyfrifoldeb penodol ar gyfer Theatr y Bobl Ifanc yn CTC - a'i swyddogaeth blaneorol fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Gorllewin Morgannwg - mae Tim yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i ThCIC yng nghyd-destun y theatr ieuenctid a hefyd gweithio gyda phobl ifanc. Yn gynharach eleni, gwnaeth ysgrifennu a chyfarwyddo pasiant y plant yn Eisteddfod Genedlaethol 2007 a chafodd ei ddisgrifio fe "Un o'r goreuon - os nad y gorau - erioe" [Barn]
Mae Tim wedi ymgymryd â chomisiynau rhyngwladol yn Japan, UDA, Sbaen ac yn fwyaf diweddar yn yr India. Yn ogystal mae ganddo ymrwymiadau dysgu a chyfarwyddo rheolaidd gyda'r Theatr Cenedlaethol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gelfyddydau Perfformiadol Mountview (Llundain).
Tachwedd 2007
Dewch am glyweliad gyda ThCIC
Gallwch gyflwyno cais i gael eich clyweld gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn awr.
Mae ThCIC yn cynnig hyfforddiant a phrofiad perfformio i bobl ifanc yng Nghymru, bydd y clyweliadau yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymuno â ThCIC yn ystod 2008.
Mae ThCIC yn rhifo 60 person ifanc rhwng 16 - 21 oed, sy'n cael eu clyweld yn flynyddol ac sy'n dod o bob rhan o Gymru.
Yn ystod cwrs preswyl pum wythnos yn ystod yr haf, mae aelodau'r Theatr Ieuenctid yn gweithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr proffesiynol, coreograffwyr, cerddorion, dylunwyr a thechnegwyr i greu ac ymarfer cynhyrchiad newydd cyn dechrau ar gyfres o berfformiadau cyhoeddus.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Theatr Ieuenctid wedi bod ar daith i rai o theatrau mwyaf poblogaidd Cymru gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru (Yr Wyddgrug), Theatr y Sherman (Caerdydd), Theatr Brycheiniog (Aberhonddu), Theatr Gwynedd (Bangor) a'r Riverfront (Casnewydd).
Mae ThCIC yn darparu ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn un neu fwy o'r canlynol: actio, dylunio ac adeiladu set, gwisg a cholur, goleuo a sain, a goruchwyliaeth lwyfan. Gall ymgeiswyr gael eu clyweld ar gyfer actio a chefn y llwyfan (Noder: rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y ddau gwblhau Ffurflen Gais Actio a Ffurflen Gais Cefn y Llwyfan).
Gofynion Clyweld:
- Dylai ymgeiswyr fod yn rhan o grŵp drama mewn ysgol/coleg, neu'n rhan o theatr ieuenctid leol.
- Dylai ymgeiswyr ar gyfer ThCIC 2008 fod rhwng 16 - 21 oed erbyn 31 Awst 2008.
Os hoffech chi gael clyweliad ar gyfer Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yna dylech lwytho ffurflen gais i lawr, ei hargraffu a'i llenwi neu ffonio 029 2026 5006 i ofyn am gopi caled
Y dyddiad olaf i gyflwyno ceisiadau yw 19 Rhagfyr 2007.
Am fwy o fanylion cysylltwch â: Gillian Wells, 029 2026 5006 nytw@nyaw.co.uk
Ydych chi'n chwilio am yr anrheg arbennig hwnnw ar gyfer y Nadolig?
Beth am ein dewis o CDau:
Nadolig gyda Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a'r Band Buy As You View
Pris Arbennig £5
Cloudburst gan Gerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru £5
Cofraglen 60fed Pen-blwydd CGIC (yn cynnwys CD gyda detholiad o ddarnau o'r 60 mlynedd diwethaf) £5
CDau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru:
Elgar - Symphony No 2 £10
Holst - The Planets £5
Shostakovich - Symphony No 7 £5
Cynnig Arbennig - 3 CD CGIC £12
Mae pob pris yn cynnwys cost postio a phacio
I brynu, dylech anfon siec yn daladwy i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn nodi pa CD(au) rydych am ei phrynu, eich enw a chyfeiriad, a rhif ffôn yn ystod y dydd. Dylech ei anfon at: CDau CCIC, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX
Hydref 2007
Bydd offerynnwyr ifanc yn cael y cyfle i weithio gyda'r chwaraewyr proffesiynol mewn gweithdy taro ym mis Tachwedd. Cynhelir Weithdy Offerynnau Taro yn Ysgol Uwchradd Pontypridd ar ddydd Sul 25 Tachwedd gan Celfyddydau Cenedlaethol Cymru a Gwasaneth Cerdd Rhondda Cynon Tâf. Yn ystod y diwrnod bydd cyfle i chwaraewyr o bob gallu weithio gyda blaenorion y maes ar amrywiaeth eang o offerynnau taro. Does dim tal am y gweithdy. Gallwch lawrllwytho ffurflen gais yma.
Haf llwyddiannus i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - ac nid yw ar ben eto!
Perfformiwyd cyngerdd oedd wedi'i werthu allan gan Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y BBC Proms eleni yn y Royal Festival Hall yn Llundain. Dywedodd papur newydd y Guardian y canlynol am y perfformiad "the National Youth Choir of Wales, brought translucent tone and immaculate phrasing to Faure's Cantique de Jean Racine and Requiem."
Teithiodd Band Pres Cenedlaethol Cymru i Ganada am ddeng niwrnod, ar ôl perfformio led led Cymru.
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru oedd Dewis y Golygydd o bethau i'w gweld yn y Western Mail a dywedodd eu hadolygiad o'r cynhyrchiad "Contemporary dance is not only alive and well in Wales, it is positively thriving". Dywedodd adolygiad y Big Issue "This is a profound piece of physical poetry and an education in the language of dance".
Daeth taith Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ben yng Nghaerdydd yn Neuadd Dewi Sant, ar ôl perfformiadau yn Llanbedr Pont Steffan, Bangor a'r Wyddgrug ac yn ddiweddarach y mis hwn bydd y gerddorfa'n mynd i Ischia i berfformio i'r Arglwyddes Walton ar Awst 30ain. Bu erthygl ar chwech o'r chwaraewyr yn y Western Mail yn sôn am eu diddordebau diwylliannol eraill.
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fydd yn cloi tymor yr haf eleni gyda pherfformiadau o Café Cariad yn Aberystwyth, Yr Wyddgrug a Chaerdydd.
Gorffennaf 2007
Y gorau yng Nghymru - haf 2007 gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Yr haf hwn bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru'n teithio o gwmpas Cymru (a Chanada a'r Eidal) gyda thros 300 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yng nghyrsiau preswyl haf blynyddol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Eleni mae perfformiadau yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Yr Wyddgrug a Llundain ynghyd â gwahoddiadau i gynnal cyngherddau yng Nghanada a'r Eidal.
Sioe gerdd, serch (yn yr Eidal), ffarweliadau annwyl, a chlwstwr o gyfleoedd cyntaf.
Mae tymor CCIC eleni yn cyflwyno sioe gerdd newydd am Eidalwyr yn byw yn ne Cymru cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd; serch gyda pherfformiadau o Symffoni Rhif 1 William Walton; y flwyddyn olaf gyda CCIC i Gyfarwyddwyr Artistig - Greg Cullen (Theatr) ac Islwyn Evans (Côr); ac ymddangosiad cyntaf yn y BBC Proms i un o'r grwpiau Cenedlaethol (y Côr), a chlwstwr o gyfleoedd cyntaf i'r awdur Tim Price.
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru'n dathlu ei ben-blwydd yn 25ain gyda thaith gyngerdd o gwmpas Canada ym mis Gorffennaf 2007. Yn ystod y daith sy'n ddeg diwrnod o hyd bydd y Band yn gweithio gyda thiwtoriaid o Opera a Cherddorfa Symffoni Toronto i baratoi am gyngherddau yn Toronto, Parry Sound ac Ottowa.
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio yn y BBC Proms yn Neuadd Albert ar ddydd Sadwrn 21ain Gorffennaf gyda Cherddorfa Genedlaethol a Chorws Cymreig y BBC mewn cyngerdd sy'n cynnwys Requiem a Cantique de Jean Racine Fauré. Mae hon yn gryn garreg filltir yn hanes Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gan mai'r Côr yw'r cyntaf o ensembles cenedlaethol ieuenctid Cymru i'w wahodd i gymryd rhan yn y Proms yn Llundain.
Gweler y Dyddiadur am fanylion y cyngherddau i gyd.
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Yn dilyn pythefnos o breswylfa yng Nghaerdydd, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru sy'n cychwyn rhaglen yr haf gyda darn o waith newydd sy'n finiog, mympwyol, yn llawn cyflymdra ac egni ac wedi'i ategu gan y gerddoroldeb sy'n nodweddu gwaith y coreograffydd o Gymru, Henri Oguike. Un perfformiad yn unig a gyflwynir gan DGIC 2007, yn Theatr y Sherman ar ddydd Mawrth 31ain Gorffennaf.
Gweler y Dyddiadur am fanylion y perfformiad.
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Owain Arwel Hughes sy'n arwain Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru gan roi llwyfan i dalent sylweddol ei cherddorion ifanc ar daith gyngerdd o amgylch Cymru cyn teithio i Ynys Ischia yn yr Eidal i berfformio cyngerdd olaf cyfres haf sy'n cael ei rhedeg gan yr Arglwyddes William Walton. Yr haf hwn mae rhaglen y Gerddorfa'n cynnwys symffoni angerddol Walton, Symffoni Rhif 1, Tangollen gan Karl Jenkins ac, i ddathlu ei ben-blwydd yn 150eg, agorawd cyngerdd bywiog Elgar, In the South. Eleni, bydd dim llai nag wyth set o frodyr a chwiorydd yn rhan o'r Gerddorfa a dim ond 14 mlwydd oed yw'r cerddor ieuengaf.
Gweler y Dyddiadur am fanylion yn cyngherddau i gyd.
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Daw tymor yr haf i ben â chynhyrchiad newydd, wedi'i gomisiynu gan ThCIC, gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, gan yr awdur o Gymru sy'n brysur ennill enw iddo'i hun, Tim Price. Sioe gerdd newydd gyda llyfr yw Café Cariad gan Tim Price a Greg Cullen, a'r gerddoriaeth a'r geiriau gan Jak Poore a Greg Cullen, wedi'i gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru a'r Eidal.
Mae Café Cariad yn agor yn Aberystwyth ac yna'n teithio i'r Wyddgrug, gan orffen ei thaith yng Nghaerdydd. 2007 yw blwyddyn olaf cyfnod Greg Cullen gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Gweler y Dyddiadur am fanylion y perfformiadau i gyd.
Mynd ar Daith i Ogledd Cymru dros yr Haf.
Bydd dros 300 aelod o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a ddetholwyd trwy glyweliad o Gymru gyfan, yn cymryd rhan mewn llu o berfformiadau yng Ngogledd Cymru eleni. Cyn mynd ar ei daith i Iwerddon bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, ymwelir â Chaernarfon, Bwcle a Bangor (gweler y manylion isod) gan Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ym Mangor hefyd y bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio, gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ymweld â Chlwyd Theatr Cymru am y tro cyntaf a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio yn Theatr y Pafiliwn, Rhyl. Mae'r manylion yn llawn i'w cael ar dudalen y dyddiadur. I gael copi o'n taflen Gogledd Cymru, sy'n cynnwys manylion llawn yr holl berfformiadau, ffoniwch CCIC ar 029 2026 5060 neu anfonwch e-bost at Catherine Barry
CGIC yn perfformio am y tro cyntaf yn y Proms Cymreig.
Dyma fydd dechrau haf prysur i aelodau ifanc y gerddorfa: ar ôl cyfnod o ymarfer, bydd y gerddorfa'n teithio i Eglwys Gadeiriol Bryste ar ddydd Mawrth 25ain Gorffennaf, ac yna'n perfformio am y tro cyntaf yn y Proms Cymreig ar ddydd Mercher 26ain Gorffennaf, gan berfformio 2il Symffoni Elgar a Chonsierto Rhif 1 i'r Sielo gan Shostakovich, gyda'r unawdydd Julian Lloyd Webber ... darllenwch fwy
Cofraglen ar gael yn awr.
Os nad ydych wedi archebu copi'n barod, cofiwch bod y gofraglen i ddathlu 60fed Penblwydd CGIC yn awr ar gael o swyddfeydd CGIC ac y bydd ar werth mewn digwyddiadau trwy'r haf. Am bris o £6 yn unig gan gynnwys PaP, mae'r gofraglen yn rhoi cip ar hanes hynod ddiddorol 60 mlynedd cyntaf y Gerddorfa, gan gynnwys ffotograffau a gyflenwyd yn arbennig gan yr archifydd Kathryn Phipps. Hefyd mae'n cynnwys CD rhad ac am ddim yn dangos hanes clywedol CGIC gyda detholiadau unigryw o chwe degawd o recordio. I brynu eich copi, cysylltwch â Catherine Barry yn CCIC ar 029 2026 5060 neu trwy e-bost at email
Perfformio Consiertos Newydd am y tro cyntaf gan Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
l rhan o'i bolisi o gefnogi cerddoriaeth newydd, bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru'n perfformio dau gonsierto newydd ar ei daith i Ogledd Cymru eleni ... darllenwch fwy
Recordiad CD newydd.
Mae CD newydd gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i fod i'w ryddhau ym mis Medi a bydd copïau a ryddheir ymlaen llaw ar werth ym mhob perfformiad. Mae'r recordiad newydd hwn yn cynnwys 2il Symffoni Elgar ac Investiture Dances gan Alan Hoddinott. Pris: £10 os prynir yn y cyngerdd, neu £11.50 os archebir trwy'r post ac o siopau recordiau o fis Medi. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost Catherine Barry neu ffoniwch CCIC ar 029 2026 5060.
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Ychwanegir comisiwn newydd arall i repertoire y Côr eleni sef gwaith gan y cyfansoddwr sy'n un o Gymry Ariannin, Hector Macdonald. Mae ei dri gosodiad o destunau ar gyfer y Nadolig, y Pasg a'r Pentecost yn defnyddio rhythmau bywiog. Bydd y gweithiau'n cael eu perfformio gan y Côr yng Nghymru ac Iwerddon, pan fydd yn cyflwyno perfformiadau mewn pedair Eglwys Gadeiriol - Llanelwy, St. Mary's (Dulyn), St Fin Barre's (Cork) a Christ Church (Waterford).
O'r wasg: Mae CCIC wedi'i wahodd i gymryd rhan yn y BBC Proms yn Neuadd Albert ym mis Gorffennaf, 2007. Bydd y Côr yn Perfformio Requiem Fauré gyda Cherddorfa Genedlaethol a Chorws Cymreig y BBC.
Hwyl yr Wyl.
Yn ystod ei gwrs haf bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn recordio CD Nadolig. Bydd y ddisgen, sy'n cynnwys carolau poblogaidd, hefyd yn cynnwys perfformiadau unigol gan gyn-aelodau BPCIC, gyda chyfeiliant y Band Pay As You View (Cory).
Ffigurau a ffeithiau'r haf.
Yn 2005, cyflwynodd y 450 o aelodau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 32 o gyngherddau a pherfformiadau cyhoeddus i gyfanswm anhygoel o 12,000 o bobl ... darllenwch ragor
Nadolig o Gydganu.
Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dod at ei gilydd i roi cyngerdd Nadolig yn Eglwys yr Holl Saint, Penarth ar 21 Rhagfyr 2005 ... darllenwch fwy
Christmas Spirit.
Christmas Spirit Cafodd cd o gerddoriaeth y Nadolig gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac Owain Arwel Hughes ei ryddhau ddydd Iau 8 Rhagfyr ... darllenwch fwy
Senedd Symffonig.
Band Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fydd yn seinio'r gerddoriaeth gyntaf i'w chlywed y tu mewn i adeilad Senedd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Mawrth 2006 ... darllenwch fwy
Manion.
Gwybodaeth am y perfformiadau, cyngherddau a gweithdai sy'n cael eu cynnal gan CCIC ... darllenwch fwy
Dyn Tân.
Coelcerth Botticelli yw drama newydd Greg Cullen sy'n archwilio byd gwleidyddol a chymdeithasol cythryblus dinas Fflorens ar adeg y Dadeni a bydd ThCIC yn cyflwyno ei pherfformiad cyntaf. Gyda chast yn cael ei arwain gan Bâb, clerigwyr bechingalw a grwp o artistiaid oriog mae'n argoeli i roi naws yr 21ain ganrif ar holl hynt a helynt canrif arall ... darllenwch fwy
Dathlu'r Diemwnt .
Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 60 mlwydd oed a bydd y parti'n dechrau yn yr haf gyda thaith o Gymru a recordiad CD o gerddoriaeth y Nadolig dan arweiniad Owain Arwel Hughes ...darllenwch fwy
Zap y Ci.
Ysbrydolir Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gan y canwr o'r chwedegau Frank Zappa a bydd yn chwarae ei Dog Breath Variations yn ystod ei daith cyngerdd ... darllenwch fwy
Deunydd Darllen.
Mae perfformio, ein cylchgrawn chwemisol, yn cael ei ail-ddylunio yn yr Hydref. Mae rhifynnau cyfredol ar gael i'w harchebu ar-lein ... darllenwch fwy
Ffefrynnau'r wyl...
Roedd criw newyddion teledu o'r BBC wrth law i recordio trip Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i Berlin, lle cododd y gynulleidfa i'w cymeradwyo ddim llai na phum gwaith yng Ngwyl Young Euro Classic. Mae gan yr wyl bolisi o hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr ifanc, a dewiswyd Ceiri Torjussen - sy'n ddim ond 28 oed ac yn gyn aelod o'r Gerddorfa - i gynrychioli Cymru gan arweinydd CCIC, Owain Arwel Hughes
Arwydd o'r cyfnod...
Ymwelodd Henri Oguike, Cyfarwyddwr Artistig newydd DGIC, â stiwdio On Show y BBC i drafod gyda'r cyflwynydd, Aled Jones, a'r cyfarwyddwr ffilm o Gymru, Marc Evans, cyn agoriad Spatial Signatures yn Theatr Brycheiniog gyda dawnswyr ifanc o Gymru. Cafodd Spatial Signatures hefyd ei enwebu ar gyfer Pick of the Week yn The Guardian.
Dathlu penblwydd...
Dathlodd Alun Hoddinott ei ben-blwydd yn 75 trwy gyfansoddi darn newydd ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a gafodd sylw mewn rhaglen arall o On Show, a oedd yn ymdrin yn arbennig â gyrfa'r Cymro.
Cyffro canu...
Mae'n siwr mai Katherine Jenkins yw soprano enwocaf y foment, ac mae hithau'n gyn aelod o'r Cor. Bydd yn dilyn esiampl Tom Jones cyn hir drwy ymddangos mewn cyngerdd mawreddog yn Las Vegas. Fodd bynnag, roedd ganddi ddigon o amser i ofyn am help y Côr i recordio ei halbwm newydd - mewn lleoliad sydd ychydig yn llai amlwg, sef stiwdio sain yng Nghaerfyrddin.
%202%20%20%5BWEB%5D.jpg)
