Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Croeso
nybbw

Y Newyddion Diweddaraf / Ionawr 2010

DGICDyddiau Dawns Cyfoes gydag Errol White


Mae'n bleser gan Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru groesawu Errol White i arwain cyfres o ddyddiau dawns cyfoes ar gyfer dawnswyr ifanc yng Nghymru! Mae yna barch mawr iawn at Errol fel dawnsiwr a choreograffydd ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol ac, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus gyntaf gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn 2009, mae ar fin dechrau ar ei ail flwyddyn fel Tiwtor a Choreograffydd Gwadd DGIC. Mwy



CHCICY Côr Hyfforddi i berfformio yn Eglwys y Santes Fair, Y Trallwng 


Gwelwyd cynnydd dramatig eleni o ran nifer y bobl ifanc a oedd yn gwneud cais i ymuno â Chôr Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Dywedodd Matthew Thistlewood, Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Ieuenctid, yr oedd yn hapus iawn ag ymateb eleni, yn enwedig y cynnydd o ran ceisiadau gan fechgyn. Mwy



Gyda thristwch mawr cofnodwn farwolaeth Robin Jones


Bu Robin yn ddarlledwr tra hoffus ar S4C am nifer o flynyddoedd, ac roedd ei lais yn gyfarwydd mewn lleoliadau, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant. Roedd yn gyflwynydd heb ei ail, gan roi o'i amser a'i wasanaeth proffesiynol o'i wirfodd mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol, yn enwedig y rheiny oedd yn ymwneud â phobl ifanc. Ef oedd cyflwynydd cofiadwy cyngerdd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru cyn iddo fynd ar daith i Ganada, a'r corau meibion cyfunedig yng Nghanolfan y Mileniwm - gan gyflawni eich uchelgais i arwain y lluoedd coral yn llawn hiwmor. Mawr fydd ei golled o ran ei eiriolaeth dros ddiwylliant Cymreig, ei gwmni da, ac yn enwedig ei ddiddordeb brwdfrydig dros Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - yn enwedig y Côr, y mae ef a'i deulu wedi bod yn gysylltiedig ag ef ers amser.



NYOSAelodau CGIC yn cael eu gwahodd i ddathlu Nos Galan gyda CGIA


Gwahoddwyd feiolinwyr o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ymuno a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid yr Alban ar ei Chwrs Gaeaf.

Manteisiodd Eleanor Gunn, Blaenwr CGIC 2009, a Gwenno Roberts ar y cynnig i berfformio gyda CGIA. Mae'n rhaid bod Eleanor wedi teimlo'n eithaf cartrefol gan ei bod yn astudio, ar hyn o bryd, yn Academi Frenhinol yr Alban. Dywedodd Gwenno, sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, yr oedd yn gyfle arbennig i chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid arall.

Daeth y cwrs i ben a chyngherddau yn Neuadd Usher, Caeredin a Neuadd Gyngerdd Frenhinol, Glasgow, dan arweiniad arweinydd blaenorol CGIC, Christopher Adey.

Archif Newyddion