Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Amdanom
"From dance to brass, orchestra to drama, NYAW is the one stop shop for Wales's talented young people" - Western Mail

Ffeithiau nad ydych efallai'n eu gwybod amdanom ni:

  • Y Côr oedd y "cyfeiliant" ar CD Katherine Jenkins Second Nature.
  • Gyda'r Gerddorfa y cafodd John Cale o'r Velvet Underground, y cyfansoddwr Cymreig o fri Karl Jenkins a'r fiolinydd gyda Bond, Eos Chater, beth o'u hyfforddiant cynnar.
  • Roedd aelodau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn "ddyblwyr chwarae" i'r actorion Ewan McGregor a Tara Fitzgerald yn y ffilm Brassed Off.
  • Lansiwyd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru mewn gardd - i fod yn fanwl gywir, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin
  • Derbyniodd cyn-aelodau ThCIC alwadau gan Dr Who yn ystod y ffilmio diweddar yng Nghaerdydd, gan gynnwys Eve Myles (Gwyneth ym Mhennod 3 The Unquiet Dead) a Kate Borde (tîm cynhyrchu).

Beth yw'r lleoliad mwyaf rydym wedi chwarae ynddo erioed?

Ymddangosiad Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn y National Concert Hall, Belfast.

Beth oedd y lleoliad lleiaf tebygol?

Y Cantîn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a ddaeth yn gefndir i gynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o Ffawst.

Beth yw'r lleoliad lleiaf rydym wedi chwarae ynddo erioed?

Eglwys y Santes Anne yn Ynyshir, Rhondda, lle y canodd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, ymhlith eraill.

Pa ofynion rhyfedd a wnaed ar y tîm cynhyrchu gan arweinyddion a chyfarwyddwyr?

A phwy yw ein cynulleidfa?

Mae'r cynulleidfaoedd wedi amrywio o 1.8 miliwn (trwy ymddangosiadau blynyddol y Côr ar Morning Service ar Radio 4) i lai na 100 ar gyfer cyngerdd arbennig yn Ynyshir gydag Archesgob Caergaint.

Rheolir Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) gan CBAC a Tŷ Cerdd - Music Centre Wales. Mae CBAC yn gofalu am y rhaglenni Dawns Ieuenctid, Cerddorfa Ieuenctid a Theatr Ieuenctid Cenedlaethol, a Tŷ Cerdd sy'n gyfrifol am Fand Pres Ieuenctid, Côr Ieuenctid, Jazz Ieuenctid, Band Pres Symffonig a Cherddorfa Chwyth Ieuenctid.